Caffi poblogaidd yn y gorllewin yn cau wedi bron i 100 mlynedd
Bydd caffi poblogaidd yn y gorllewin yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Gwener ar ôl bron i 100 mlynedd.
Yn adnabyddus am ei hufen iâ, agorodd Caffi Conti's yn Llanbedr Pont Steffan yn 1933.
Y caffi yn Llanbed oedd unig gaffi Conti 'gwreiddiol' sydd ar ôl yng Nghymru.
Yn ôl y perchennog presennol, Jo Conti, mae cau yn "torri'i chalon" a bydd ganddi "deimladau cymysg" yn gweld y drysau'n cau am y tro olaf.
Yn wreiddiol o ardal Bardi yng ngogledd yr Eidal, daeth teulu Conti i Gymru yn y 1930au ar ôl ffoi rhag newyn.
Ar un cyfnod roedd 17 caffi gan y teulu ar draws de a gorllewin Cymru.
Erbyn heddiw, caffi Conti's yn Llanbedr Pont Steffan yw'r unig gaffi 'gwreiddiol' sydd ar ôl, oedd yn cael ei redeg gan Angelo neu "Leno" Conti am ddegawdau.
Cafodd y caffi ei brynu gan ei ferch Jo, sy'n 70 oed, dros ddegawd yn ôl. Hi yw'r bedwaredd genhedlaeth o deulu Conti.
Yn ôl Jo Conti, daeth yr Eidalwyr i ardaloedd fel de a chanolbarth Cymru a sefydlu caffis coffi a hufen iâ oherwydd bod gan y "glowyr lwnc sych ar ôl dod lan o'r pyllau glo".
Ar ôl colli ei gŵr y llynedd, fe wnaeth y penderfyniad "hynod anodd" i werthu.
"Roedden ni'n byw yn y caffi, felly o naw oed, ro'n i yno'n golchi'r llestri. Dwi wedi gweithio yno byth ers hynny," meddai.
Mae'n cofio'r Rolling Stones yn dod i'r caffi ddechrau'r 1960au, ac mae'n dweud i'r cogydd enwog Gordon Ramsay ddefnyddio'r caffi pan yn ffilmio mewn bwyty arall ar gyfer y gyfres adnabyddus 'Kitchen Nightmares'.
Er bod y busnes wedi dod â llu o atgofion i'r teulu dros y blynyddoedd, nid yw'r daith wedi bod yn hawdd ar bob achlysur - rai blynydoedd yn ôl aeth y caffi ar dân.
Gobaith Jo Conti yw y bydd rhywun yn prynu'r adeilad fel adnodd i'r gymuned. Bydd y busnes hufen iâ yn parhau fel arfer, a'r rysáit yn parhau'n gyfrinach.