Steffan James yn gobeithio ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad

Dair blynedd yn unig ar ôl dechrau chwarae bowls, bydd Steffan James yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Mae'n dweud ei fod am wneud Cymru'n falch ac yn gobeithio gorffen ar y podiwm drwy ennill medal aur.