Edrych 'mlaen at amser gyda'r plant wedi llwyddiant - Elfyn Evans
Enillodd y gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, Elfyn Evans, bencampwriaeth y byd yn dilyn ras olaf y tymor yn Sardinia ddydd Sul.
Fe ydy'r Cymro cyntaf erioed i ennill tlws y prif yrrwr.
Mewn sgwrs gyda BBC Cymru, rhannodd ei fod yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i blant oedd yn "chuffed" dros ei fuddugoliaeth dros y penwythnos.
Fideo gan Manon Evans.