'Nes i wario £100 ar emwaith, ond oedd e i gyd yn AI'
Mae cwsmeriaid sy'n dweud iddyn nhw gael eu twyllo gan wefan oedd wedi'i chreu gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus.
Roedd Lowri Ann yn un o'r rhai a brynodd emwaith o wefan Seren Jewellery ar ôl gweld hysbyseb ar-lein.
Roedd y wefan yn honni eu bod yn fusnes o Gaerdydd oedd yn cau oherwydd "rhesymau personol".
Gwariodd tua £100 ar glustdlysau a mwclis, ond wythnosau'n ddiweddarach doedd dim wedi cyrraedd.
Ar ôl i BBC Cymru gysylltu â'r cwmni, cafodd y wefan ei dileu. Mae BBC Cymru wedi gwneud sawl ymgais i gael ymateb gan y cwmni, ond ni chafwyd unrhyw ateb.