Ysgol Betws-yn-Rhos yn dathlu 165 mlynedd
Mae Ysgol Betws-yn-Rhos (ger Abergele) yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn, sef 165 mlynedd ers ei sefydlu.
Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Eleri Roberts, un o lywodraethwyr a rhiant yn yr ysgol, am bwysigrwydd dod â'r gymuned at ei gilydd i nodi'r garreg filltir.
Cawn glywed am hanes yr ysgol, sydd wedi bod ar yr un safle ers 165 mlynedd, a sut nad oedd yn bosib dathlu'r pen-blwydd yn 160 oed oherwydd cyfnod Covid-19.
Mae Lili, disgybl Blwyddyn 4, yn ymuno â'r sgwrs i sôn am Her 165 – oedd yn cynnwys gwneud 165 cartwheel – a rhai o'r heriau eraill mae'r disgyblion wedi'u cyflawni i godi arian a dathlu'r achlysur.
Gwrandewch yn llawn uchod