'GIG Cymru mewn argyfwng' - pennaeth Cymreig newydd y BMA

Mae Dr Deiniol Jones wedi cael ei ethol i olynu Dr Iona Collins fel cadeirydd pwyllgor Cymreig y BMA
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd newydd pwyllgor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn dweud bod y "gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa argyfyngus".
Dywedodd Dr Deiniol Jones bod sector "meddygon teulu ar y brinc, mae'r byd academaidd clinigol yn gwanhau, dydy iechyd y cyhoedd ddim yn cael blaenoriaeth, mae cyflogau a swyddi yn dirywio, mae adeiladau ac offer yn cwympo'n ddarnau, ac mae gwleidyddion ac arweinwyr y GIG yn aml wedi camreoli'r sefyllfa".
Daw ei sylwadau wedi iddo gael ei ethol i olynu Dr Iona Collins, sydd wedi cadeirio pwyllgor Cymreig y BMA ers 2022.
Mae Dr Deiniol Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy o arian a chynnig "cynllun gweithredu priodol", gan ddweud bod "llawer i 'neud ond does dim dewis".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall y pwysau sy'n wynebu ein GIG ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â nhw".
Menywod sy'n prynu testosteron ar-lein yn wynebu sgil effeithiau hirdymor
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl
'Newid rhywedd yn ofal iechyd, a gwasanaeth atal hunanladdiad'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Cwestiwn tyngedfennol wedi newid fy mywyd' - effaith hunlosg
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dr Jones ei bod yn "sefyllfa anodd iawn ac yn gwaethygu'n anffodus".
"Mae meddygon yn siarad gyda ni bob dydd, bob wythnos am ofal coridor.
"Does dim digon o staff ond ni hefyd gyda meddygon sy'n brwydro i chwilio am swyddi.
"Mae'n sefyllfa fregus ar hyn o bryd yn yr ysbytai."
'Talu am benderfyniadau'r gorffennol'
Mae Dr Jones yn feddyg ac mae wedi gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae hefyd wedi cynrychioli meddygon yn y BMA mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys y Cyngor Cymreig a Phwyllgor Meddygon Preswyl Cymru.
Mae'n credu mai "penderfyniadau llywodraethau'r gorffennol" sy'n gyfrifol am y sefyllfa bresennol, "a ni'n talu am e nawr".
Mae'n galw am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ac mewn datganiad dywedodd "fe allwn ni neud yn well, ac mae'n rhaid i ni".
Bydd Dr Jones yn ei rôl newydd am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar 10 Medi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu penodiad Dr Jones ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef", ac yn "diolch i Dr Collins am ei gwaith".
"Rydym yn deall y pwysau sy'n wynebu ein GIG ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â nhw.
"Rydym eisoes wedi dechrau drwy fuddsoddi i leihau'r rhestrau aros ac rydym yn datblygu strategaeth gweithlu newydd i'w chyhoeddi yn yr hydref."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.