'Ein pentref fydd yr Abersoch nesaf os fydd ysgol yn cau'

Pont-y-Pair ym Metws-y-CoedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont-y-Pair yng nghanol Betws-y-Coed

  • Cyhoeddwyd

Mae rhiant disgybl mewn ysgol gynradd wledig wedi mynegi pryder y gallai eu pentref fod "yr Abersoch nesaf" pe bai'n cau.

Mae Cyngor Conwy'n ystyried cynigion i gau Ysgol Betws-y-Coed, sydd ag 14 o ddisgyblion.

Ond mae mam un o'r disgyblion yn ofni y gallai cam o'r fath achosi i deuluoedd ifanc adael yr ardal, ac arwain at fwy o dai haf ac ail gartrefi gan droi'r pentref i fod "yr Abersoch nesaf" - cyrchfan boblogaidd yng Ngwynedd ble mae'r boblogaeth yn codi o 600 i tua 30,000 ym misoedd yr haf.

Dywedodd Cyngor Conwy y bydd y cabinet yn trafod y mater ar 9 Mehefin.

Ysgol Betws-y CoedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

14 o ddisgyblion sydd ar gofrestr Ysgol Gynradd Bwtws-y-Coed ar hyn o bryd

Mae Ysgol Betws-y-Coed, ynghyd ag Ysgol Capel Garmon ac Ysgol Dolwyddelan, yn rhan o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan dan arweiniad un pennaeth.

Dywed y fam y byddai cau Ysgol Betws-y-Coed "yn hollol hurt".

"O dair ysgol y ffederasiwn, yr ysgol fwyaf - yr un gyda'r nifer fwyaf o ddisgyblion a staff yn y blynyddoedd diwethaf - yw'r ysgol sydd dan ystyriaeth ar gyfer ei chau," meddai.

"Am flynyddoedd ges i drafferth prynu tŷ yma am eu bod mor ddrud. Os maen nhw'n cau ein hysgol, dwi'n poeni y bydd y gymuned yma'n dioddef.

"Yr ysgol sy'n cadw teuluoedd ifanc yn yr ardal. Fel yn fy achos inna', bydd yn rhaid i bobol ddechrau chwilio am rywle arall."

'Dros £700,000 newydd ei wario ar yr ysgol'

Fe fyddai cau'r ysgol "yn ddinistriol" i'r gymuned, yn ôl nain un o'r disgyblion, Penny Richardson, sy'n gyn-ddisgybl ei hun.

"Mae dros £700,000 newydd gael ei wario ar yr ysgol," meddai.

"Gawson ni ffreutur newydd, mae'r holl ffenestri'n newydd, a'r holl blymwaith.

"Mae popeth, yn llythrennol, wedi cael ei ail-wneud. Daeth i ben tua blwyddyn a hanner yn ôl. Mae'n wastraff arian llwyr."

Mae'r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol wedi gofyn wrth y cyngor am sylw ynghylch gwariant ailwampio'r ysgol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig