Disgwyl gwrthod treth ymwelwyr ym Môn ar ôl i 70% wrthwynebu

Llun goleudy Ynys Llanddwyn
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Llanddwyn yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd Ynys Môn i dwristiaid

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gyngor Ynys Môn wrthod gosod treth ar ymwelwyr ar ôl i gynghorwyr gefnogi adroddiad sy'n argymell peidio codi'r ffi.

Daw penderfyniad y pwyllgor gwaith ar ôl i'r mwyafrif o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ddatgan eu bod nhw yn erbyn ffi o'r fath.

Ers i reolau newydd ddod i rym yng Nghymru, mae gan gynghorau'r dewis i gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.

Ond mae pryderon dros heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth wedi eu rhestru fel rheswm i beidio cyflwyno ardoll.

Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu am y ddeddfwriaeth ei hun, gydag arweinydd y cyngor Gary Pritchard yn dweud "nad yw'n galluogi ni i greu sector twristiaeth gynaliadwy sy'n gallu ffynnu heb ychwanegu baich ar ein trigolion".

Bydd penderfyniad terfynol ar yr ardoll ddydd Iau.

'Gwrthwynebiad clir a phendant'

Roedd cynghorau sir Ynys Môn, Conwy a Gwynedd i gyd wedi cytuno i ddechrau proses ymgynghori ar gyflwyno treth ymwelwyr.

Mae disgwyl i Gyngor Conwy wrthwynebu'r cynllun yr wythnos hon, tra bod Cyngor Gwynedd wedi oedi eu penderfyniad ar ôl derbyn bron i 7,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cyngor Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi cadarnhau eu bod am gyflwyno ardoll ymwelwyr hyd yn hyn, gyda'r ffi newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

BeaumarisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 70% o'r rhai wnaeth ymateb i ymgynghoriad yn gwrthwynebu treth ar ymwelwyr

Ym Môn, daeth y broses ymgynghori i ben ar 13 Gorffennaf gyda 2,098 o bobl wedi ymateb.

Roedd 70.8% wedi gwrthwynebu cyflwyno treth ymwelwyr, gyda'r gwrthwynebiad cryfaf ymhlith gweithwyr ym maes twristiaeth, perchnogion busnes ac ymwelwyr.

Dywedodd 25.1% eu bod nhw'n cefnogi neu'n dueddol o gefnogi'r ffi.

Er i'r ffigwr yn erbyn y cynllun fod yn is ymysg pobl sy'n byw ar yr ynys, roedd y gwrthwynebiad o 58% dal yn fwy na'r gefnogaeth.

Ardoll werth hyd at £1.5m y flwyddyn

Disgrifiodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n gyfrifol am dwristiaeth, y canlyniadau fel "gwrthwynebiad clir a phendant yn erbyn cyflwyno'r ardoll".

"Mae'n glir pa mor bwysig ydy'r diwydiant yma i bobl Môn ac economi Môn. Mae'n cynnal teuluoedd ac yn creu swyddi," meddai.

"Ond mae'r broses yma wedi amlygu gwendidau clir i'r ddeddfwriaeth ei hun, ac mae angen i'r llywodraeth edrych ar hynny.

"Mae'r diwydiant hefyd yn wynebu heriau pendant sydd angen eu datrys."

Petai treth yn cael ei chymeradwyo, gallai ymwelwyr sy'n aros dros nos dalu hyd at £1.30 bob noson, heb gynnwys treth ar werth (TAW).

Roedd yr cyngor wedi nodi y gallai'r ardoll godi rhwng £1.2m a £1.5m y flwyddyn ar gyfer Ynys Môn, heb gynnwys TAW ac ar ôl tynnu costau gweinyddol Llywodraeth Cymru.

Byddai'r arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer gwella twristiaeth leol fel cynnal cyfleusterau a seilwaith a gwarchod tirluniau.

Ond wedi argymhelliad y pwyllgor gwaith, mae'n debygol y bydd y cyngor yn gwrthod yr ardoll.

Mae'r adroddiad oedd dan sylw y pwyllgor yn awgrymu monitro ac ystyried effaith ardoll mewn ardaloedd eraill yn gyntaf, ac yn argymell i'r prif weithredwr godi pryderon am y ddeddfwriaeth gyda'r llywodraeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.