Chwe Gwlad: Tri newid i'r tîm i wynebu Iwerddon

Doedd Carys Cox a Hannah Dallavalle ddim yng ngêm Cymru yn erbyn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae tri newid i dîm Cymru fydd yn wynebu Iwerddon ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fydd Carys Cox a Hannah Dallavalle yn dychwelyd i reng ôl Cymru ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Iwerddon.
Roedd Cox yn absennol o'r garfan pan gollodd Cymru i Ffrainc a Lloegr ar ôl cael anaf wrth hyfforddi, ond fe fydd yn ôl yng nghanol y cae ddydd Sadwrn gyda Courtney Keight.
Bu'n rhaid i Dallavalle dynnu'n ôl ar y funud olaf cyn y gêm yn erbyn Lloegr, ond fe fydd y canolwr yn symud i'r asgell yn lle Seren Singleton.

Dyw Georgia Evans heb ddechrau gêm hyd yn hyn yn ystod yr ymgyrch Chwe Gwlad presennol
Dan y trydydd newid i'r 15 sy'n dechrau'r gêm yn Stadiwm Affidea, Belffast, fe fydd Georgia Evans yn yr ail reng yn lle Gwen Crabb wedi iddi hithau gael anaf.
Dyma fydd y tro cyntaf i Evans ddechrau gêm yn yr ymgyrch Chwe Gwlad presennol.
Fe allai Nikita Prothero ennill ei chap rhyngwladol cyntaf o'r fainc, ac fe allai Natalia John ennill ei 50fed cap.
Mae Bethan Lewis yn parhau fel capten ddydd Sadwrn - fe fydd Kate Williams yn colli gweddill y bencampwriaeth wedi anaf i'r goes.
Tîm Cymru
Powell; Dallavalle, Cox, Keight, J Joyce; George, Bevan; Pyrs, Jones, Tuipulotu, Metcalfe, Evans, Aiono, Lewis (capten), King
Eilyddion: Reardon, Davies, Rose, John, A Joyce, Lockwood, Bell, Prothero
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.