Pla yn cau bwyty McDonald's yng Nghaerdydd dros dro

McDonald'sFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae bwyty McDonald's yng nghanol Caerdydd ar gau dros dro wedi i rywun weld "pla" yno.

Bu'n rhaid cau'r safle ar Heol Eglwys Fair yn dilyn "penderfyniad rhagweithiol" meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Ychwanegodd fod cwmni arbenigol "wedi ymchwilio'n fanwl i'r sefyllfa", gan bwysleisio bod "diogelwch bwyd a hylendid o'r pwys mwyaf i ni".

"Rydym wedi aros ar gau nes bod arbenigwyr yn hyderus bod y mater wedi ei ddatrys, ac mae wedi ei ddatrys erbyn hyn," meddai.

"Mae'r bwyty wedi cael ei lanhau'n drwyadl ac yn bwriadu croesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiweddarach yr wythnos hon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol