Gwahardd dyn o Fôn rhag chwarae pêl-droed am bum mlynedd wedi ymosodiad
Cafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol (Fideo: Harvey Barnett)
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ynys Môn wedi ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am bum mlynedd ar ôl achosi niwed corfforol drwy daro chwaraewr arall gyda'i benelin yn ystod gêm.
Roedd Thomas Taylor, 36 oed o Landdona, wedi ymosod ar Daniel Brookwell yn ystod gêm gynghrair rhwng Porthmadog a Bae Trearddur ar 17 Ionawr.
Fis Mai, fe gafodd ddedfryd o garchar wedi ei ohirio yn Llys Ynadon Caernarfon.
Fe wnaeth Panel Disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyfarfod yn ddiweddar i drafod yr ymosodiad, gan ddod i gasgliad ei fod am gael ei wahardd o "bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed" am bum mlynedd.

Thomas Taylor yn cyrraedd y llys yng Nghaernarfon fis Mai
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Ar ôl ystyried y dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd ei gyflwyno yn ofalus, penderfynodd y Panel Disgyblu fod y cyhuddiad yn erbyn Thomas Taylor wedi'i brofi.
"O ganlyniad, mae Thomas Taylor yn destun gwaharddiad o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed heb unrhyw adolygiad i'w ystyried o dan gyfnod o bum mlynedd.
"Mae'r cyfnod o 5 mlynedd yn dechrau ar 22 Ionawr 2026."
Fe wnaeth y Panel Disgyblu hefyd benderfynu y dylid dirwyo Thomas Taylor a'i orchymyn i dalu costau.
Mae modd cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Panel Disgyblu erbyn 17:00 ar ddydd Gwener, 12 Mehefin 2026 fan bellaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
