Pam bod 'na furlun o Dot Cotton ym Mhont-iets?

Y murlun Ffynhonnell y llun, JenksArt
GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mi fyddai unrhyw un o wylwyr selog EastEnders yn gyfarwydd iawn gydag un o gymeriadau mwyaf eiconig y gyfres, sef Dot Cotton.

Roedd hi'n un o brif wynebau'r opera sebon o 1985 nes 2020 ac fe gafodd rhifyn arbennig o EastEnders ei ddarlledu o brofiad Dot yn blentyn yn cael ei hanfon i Sir Gaerfyrddin dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Ond tu hwnt i stori'r sgrin, cafodd yr actores June Brown oedd yn chwarae rhan Dot, ei hanfon i Gymru yn blentyn.

Fe ddaeth hi a degau o blant eraill yn faciwîs i Gwm Gwendraeth.

I ddathlu'r cysylltiad ac i nodi'r croeso cynnes wnaeth yr ardal roi i'r plant, mae'r artist Steve Jenkins o Lanelli, sy'n adnabyddus fel JenksArt, wedi creu murlun newydd gyda June Brown yn rhan ohono ym mharc pentref Pont-iets.

June Brown fel Dot Cotton ar EastEndersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

June Brown fel Dot Cotton ar EastEnders

Mae'r murlun yn ffrwyth syniad grŵp Gwella Cymuned Pont-iets a bu Rhian Cooper sy'n rhan o'r grŵp yn trafod y stori tu ôl i'r murlun ar Dros Frecwast fore Gwener: "Ry'n ni wedi bod yn trio adnewyddu'r parc ym Mhont-iets a gwella'r ardal.

"Ein syniad ni oedd cael murlun o'r pethau oedd yn bwysig neu oedd yn perthyn i Bont-iets. A 'naeth Jenks fynd mewn i'r ysgolion i drafod gyda'r plant beth oedden nhw moyn gweld ar y murlun a hefyd siarad â phobl leol.

"A daeth yr enw June Brown lan a oedd Jenks ddim 'da syniad pam oedd pawb yn sôn am June Brown. Ac wedyn 'naeth e edrych mewn i'r hanes a gweld bod hi wedi bod yn faciwî ym Mhont-iets a bod pobl yn moyn gweld hi ar y murlun hwn.

"'Naeth e ddewis rhoi hi mewn gyda'r pethau 'normal' byddai pawb yn meddwl amdanynt o Bont-iets.

"Mae'r clwb rygbi, mae'r glowyr, yr afon a'r bont sy'n bwysig i ni fel pentre'. Ond hefyd mae June Brown. Mae wedi bod yn bwynt sgwrsio da i ni fel pentre'."

Murlun 2Ffynhonnell y llun, JenksArt
Disgrifiad o’r llun,

Elfennau eraill o'r murlun

Bu'r cynghorydd sir lleol Tyssul Evans hefyd yn ymchwilio i'r hanes pan oedd grŵp Hanes Pont-iets yn trefnu aduniad faciwîs Cwm Gwendraeth.

Dywedodd: "Yn rhyfedd iawn, fe glywais i ar raglen radio neu deledu June Brown yn cael ei holi am ei chefndir a'r adeg oedd hi wedi bod yng Nghwm Gwendraeth. Oedd hwnna'n newydd i fi.

"Oedd hi'n dweud fel oedd hi'n cofio mynd i'r ysgol ym Mhont-iets. Ond gwaetha'r modd, o'n i ddim yn gwybod p'un o'r ddwy ysgol oedd hi wedi bod ynddo.

"Fe wnes i gysylltu â phrifathrawon y ddwy ysgol ar y pryd a gofyn am weld y cofrestru nôl adeg y rhyfel. Ond gwaetha'r modd, doedd dim enwau ar gael."

Balchder

Ond mae'n destun balchder i'r gymuned fod June Brown yn sôn am y croeso cynnes gafodd hi yn yr ardal fel sawl plentyn arall, fel mae Tyssul yn dweud:

"Un peth dwi'n cofio'n iawn hi'n dweud oedd bod hi'n codi yn y bore cyn mynd i'r ysgol a mynd dros y caeau i'r ffarm leol i gasglu llaeth."

Er gwaethaf ymdrechion y grŵp hanes i wahodd June Brown i'r aduniadau blynyddol, ni lwyddodd i fynychu cyn ei marwolaeth yn 2022.

Mae murlun gorffenedig JenksArt i'w weld ym mharc pentref Pont-iets o ddydd Gwener Mehefin 26 ymlaen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb