Dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yn ymddiswyddo dros bolisi 'dibwynt' Seioniaeth

Cyn-dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Phil Davies (chwith) gydag arweinydd y blaid, Zack Polanski
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ddirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn dweud ei fod wedi ymddiswyddo oherwydd polisi i ddatgan bod 'Seioniaeth yn hiliaeth', gan ei fod yn "ddibwynt" a bod rhai o'r datganiadau a gafodd eu gwneud yn "gywilyddus".
Roedd Phil Davies wedi bod yn aelod o'r Blaid Werdd ers saith mlynedd, ond roedd wedi cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth bod ei benderfyniad i adael y blaid wedi'i "gyflymu" gan y cynnig dros y penwythnos.
Yn y neges, disgrifiodd y cynnig fel un "imperialaidd" a "ffôl", gan ddweud "nad yw'n cyflawni dim byd o bwys yn y byd go iawn".
Wrth siarad â BBC Radio Wales ddydd Mercher, dywedodd nad yw'n gwybod pam y cafodd y mater ei drafod, "gan nad yw'n gwneud dim i wella bywydau pobl ym Mhalestina yn sylweddol".
Beth yw'r polisi dadleuol?
Mae Plaid Werdd Lloegr a Chymru wedi mabwysiadu yn ffurfiol, yn ei chynhadledd ddydd Sul, y polisi dadleuol sy'n datgan bod Seioniaeth - sy'n cael ei ysytyried yn fras fel cefnogaeth i dir cartref Iddewig - yn hiliaeth.
Mae'r polisi - sydd wedi rhannu aelodau'r blaid - yn cefnogi "sefydlu un wladwriaeth Balestinaidd ddemocrataidd ar draws holl diriogaeth hanesyddol Palestina, gyda Jerwsalem yn brifddinas iddi, hawliau cyfartal i bawb, a hawl dychwelyd i Balestiniaid a'u disgynyddion".
Mae'n diffinio Seionaeth fel ideoleg sy'n cefnogi "gwladwriaeth Iddewig ethno-genedlaethol".
Roedd arweinydd Plaid Werdd Lloegr a Chymru, Zak Polanski, eisiau newidiadau i'r cynnig, ond cawson nhw eu gwrthod gan y gynhadledd.
Ni chymerodd Mr Polanski, sy'n Iddewig, ran yn y bleidlais ddydd Sul.
Dywedodd bod "gwrth-semitiaeth a beirniadaeth o wladwriaeth Israel yn gwbl wahanol - ac rhaid iddyn nhw barhau felly; mae cymylu'r ffin rhwng y ddau yn anghywir ac hefyd yn wrth-semitaidd, ac yn gwneud pobl Iddewig yn llai diogel".
Mewn ymateb, mae Israel wedi gwahardd Polanski mynd i mewn i'r wlad.
Mae grwpiau Iddewig hefyd wedi disgrifio'r cam fel "ymosodiad" ar eu cymuned, ac adroddodd rhai ASau Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol y blaid i gorff gwarchod cydraddoldeb y DU.

Dywedodd Anthony Slaughter nad oedd yn "briodol i'r Blaid Werdd alw am ddatrysiad un wladwriaeth"
O blith pump Aelod Seneddol y Gwyrddion, gwrthwynebodd pedwar y cynnig.
Ni fynychodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, y gynhadledd gan ei fod yn cael triniaeth ar gyfer canser, ond dywedodd wrth BBC Cymru na fyddai wedi cefnogi'r cynnig ynghylch Seioniaeth "heb welliant".
Dywedodd nad oedd yn "briodol i'r Blaid Werdd alw am ddatrysiad un wladwriaeth".
"Fel rwy' wedi'i ddweud yn flaenorol, rwy'n cadw'n gadarn at fy nghred nad oes gwrthdaro rhwng cefnogi hawliau'r bobl Balesteinaidd ac hawliau'r bobl Iddewig," meddai.
"Mae'r Blaid Werdd wastad wedi sefyll dros gynnal hawliau dynol cyffredinol, a fy nghyfrifoldeb i fel arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yw sicrhau bod ein plaid yn sefyll dros ddiogelwch a rhyddid i bawb."
Ychwanegodd: "Does dim cywilydd am ein record, ac rydym yn sefyll wrth ein beirniadaeth o weithredoedd llywodraeth Israel a byddin Israel."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod polisi'r Gwyrddion yn "annoeth"
Ddydd Mawrth dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth bod polisi'r Blaid Werdd yn "annoeth".
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod bob amser wedi cefnogi datrysiad dwy wladwriaeth ac yn sefyll "ochr yn ochr â'r cymunedau Iddewig yng Nghymru".
Roedd yn ymateb i Helen Jenner o Reform, a gyhuddodd "bleidiau adain-chwith" o fod â "phroblem wrth-semitiaeth ffiaidd".
"Rydym wedi'i weld yn y Blaid Lafur, rydym wedi'i weld ym Mhlaid Cymru, ac yn y penwythnos diwethaf yn unig, mabwysiadodd Plaid Werdd Lloegr a Chymru bolisi yn datgan bod Seioniaeth yn hiliaeth," meddai Ms Jenner.
Atebodd Mr ap Iorwerth gan ddisgrifio newid polisi'r Gwyrddion fel cam "annoeth".
Ychwanegodd ei fod yn "sefyll yn erbyn gwrth-semitiaeth, fel fyddai'n gwneud yn erbyn Islamoffobia".

Ni wnaeth Zack Polanski gymryd rhan yn y bleidlais ar y cynnig dadleuol
Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw ynghylch y cynnig, ond dywedodd llefarydd yn flaenorol: "Mae hwn wedi bod yn ddadl ddifrifol ac emosiynol iawn ymhlith ein haelodau.
"Mae ein haelodau yn gwerthfawrogi'r gallu i gyflwyno a phenderfynu ar bolisi'r blaid, ac mae'r gynhadledd bellach wedi gwneud ei phenderfyniad.
"Mae'r Blaid Werdd yn blaid wrth-hiliol sydd wedi gwrthwynebu'n gyson meddiannaeth anghyfreithlon tiroedd Palestina a Syria, wedi galw am roi diwedd ar werthu arfau i lywodraeth Israel, ac wedi lleisio barn yn ddi-ofn ynghylch y sefyllfa drychinebus yn Gaza ac yn y Lan Orllewinol.
"Mae'r safbwyntiau hynny'n parhau i fod yn ganolog i'n dull gweithredu. Yr un mor ganolog yw ein hymrwymiad dwfn i gydraddoldeb, cyfiawnder a hawliau dynol i bawb, a'n gwrthwynebiad i hiliaeth ar bob ffurf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.