Rheolwr Cymru'n cysgu mewn maes awyr ar ôl methu â glanio ym Montenegro

Mae carfan Rhian Wilkinson wedi gorfod glanio yn ninas Brindisi yn Yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae paratoadau tîm pêl-droed merched Cymru ar gyfer y gêm yn Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd nos Wener wedi cael eu heffeithio ar ôl i'w hawyren gael ei dargyfeirio i'r Eidal.
Fe adawodd carfan Cymru faes awyr Caerdydd am 16:30 ddydd Iau, ac roedden nhw fod i lanio ym Montenegro dair awr yn ddiweddarach.
Ond doedden nhw ddim yn gallu glanio yn y brifddinas Podgorica oherwydd stormydd trydanol, felly fe gafodd yr awyren ei gyrru i Brindisi yn ne-ddwyrain Yr Eidal.
Ar ôl treulio tair awr yn eistedd ar yr awyren ar ôl glanio, fe wnaed y penderfyniad i aros yn Brindisi dros nos.
Roedd yn rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru geisio dod o hyd i ystafelloedd gwesty ar fyr-rybudd, yn ogystal â cheisio trefnu hediad newydd i Podgorica ddydd Iau.
Doedd dim modd trefnu lle mewn gwesty i bawb, gyda'r rheolwr Rhian Wilkinson yn treulio'r noson yn y maes awyr.
"Oherwydd stormydd yn Podgorica, cafodd hediad Cymru ei ddargyfeirio gan lanio yn saff ym maes awyr Brindisi yn Yr Eidal," yn ôl datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Bydd y tîm yn aros dros nos yn Yr Eidal ac yn dod o hyd i ffordd i gyrraedd Montenegro cyn y gêm nos Wener."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
