Siân Phillips am gymryd cam yn ôl o'r llwyfan yn 93 oed

- Cyhoeddwyd
Mae un o actorion amlycaf Cymru, y Fonesig Siân Phillips, wedi dweud na fydd hi'n parhau i actio'n llawn-amser ar y llwyfan ar ôl profi anawsterau gyda'i chof yn ystod ymarferion.
Dywedodd yr actores 93 oed wrth bapur newydd The Times ei bod yn cael trafferth cofio ei llinellau ar gyfer cynhyrchiad diweddar a bod hi'n bryd camu yn ôl.
Ond dywedodd Phillips y byddai'n parhau i berfformio mewn prosiectau llai, gan gynnwys cynhyrchiad gyda chwmni Welsh National Theatre, Michael Sheen y flwyddyn nesaf.
Erbyn hyn mae wedi cael gyrfa o dros 80 mlynedd gan berfformio ar lwyfan, ar y teledu ac mewn ffilmiau.

Yn ystod ymarferion ar gyfer Atonement yn Chichester Festival Theatre yn gynharach eleni yr oedd Phillips yn cael problemau cofio'i llinellau meddai wrth The Times.
Ond yn ôl y papur newydd, dywedodd y byddai'n parhau i berfformio yn ei sioe It's All Greek ac mae hefyd i fod i ymddangos yn Rockaby ar gyfer Welsh National Theatre, Michael Sheen y flwyddyn nesaf.
Cafodd ei geni yng Ngwauncaegurwen, Castell-nedd Port Talbot, ond ei magu'n ferch fferm yn ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin. Ac fe ddechreuodd ei gyrfa darlledu â hithau ond yn 11 oed ar ôl ennill cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd a newyddiadurwr cyn symud at actio.
Mae wedi ymddangos mewn cynyrchiadau fel The Archers ac addasiad o Tinker, Tailor, Soldier, Spy, llyfr John le Carré.
Cyn iddi lwyddo yn y byd actio fe weithiodd i BBC Cymru fel cyflwynydd a darllenydd newyddion.
Aeth ymlaen wedyn i fod yn un o actorion mwyaf clodwiw Prydain, gan ymddangos mewn cynyrchiadau gan gynnwys Doctor Who, Calendar Girls, Dune, ac I, Claudius.
Enillodd wobr BAFTA am ei phortread o Livia yn rhalgen I, Claudius y BBC ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Tony am chwarae'r brif ran yn Marlene.
Cafodd CBE yn y flwyddyn 2000 am ei gwasanaeth i ddrama, ac yna DBE yn 2016.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2025

- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018
