Teyrngedau i'r seiclwr o Geredigion, Finlay Tarling, sydd wedi marw yn ystod ras

- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrnged i'r seiclwr 19 oed o Geredigion, Finlay Tarling, sydd wedi marw ar ôl damwain ddifrifol yn ystod wythfed cymal ras y Volta a Portugal.
Roedd Finlay Tarling, o Aberaeron, yn frawd iau i Josh, sy'n beicio i'r tîm Ineos Grenadiers, ac mae wedi cystadlu dros Brydain ar y ffordd ac ar y trac.
Mewn datganiad a ddarparwyd i'r cyfryngau lleol, dywedodd yr Uwchgapten Tiago Machado o'r Gwarchodlu Gweriniaethol Cenedlaethol fod "gwrthdrawiad rhwng y beiciwr a cherbyd nwyddau ysgafn" wedi digwydd, a bod ymchwiliad ar y gweill.
Roedd yn cystadlu dros Dîm Datblygu NSN pan ddigwyddodd y digwyddiad ar y llwybr 166.8km o Melgaco i Fafe.
Mewn datganiad, dywedodd NSN: "Rydym wedi torri ein calonnau wrth gyhoeddi bod Finlay Tarling wedi marw yn y Volta a Portugal heddiw.
"Roedd Fin yn aelod annwyl iawn o'n tîm, ond yn bwysicaf oll, roedd yn fab, yn frawd ac yn ffrind i gynifer o bobl. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd at rieni Fin, Michael a Dawn, ei frawd Josh, a phawb a gafodd y fraint o alw Fin yn ffrind."
Mewn neges ar X, mynegodd trefnwyr y ras a Ffederasiwn Beicio Portiwgal eu "cydymdeimlad dwysaf â theulu Finlay Tarling, ei gyd-aelodau tîm, Tîm Datblygu NSN, a'i holl ffrindiau a'i anwyliaid".
Ychwanegon nhw fod y rasio wedi dod i ben ac na fyddai'r seremoni podiwm arfaethedig yn cael ei chynnal, fel arwydd o "barch a galar".
Wrth roi teyrnged i'r dyn yn ei arddegau dywedodd Beicio Cymru, sef y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer beicio yng Nghymru, eu bod wedi eu "chwalu'n llwyr wrth glywed y newyddion".
"Roedd Fin yn athletwr, yn esiampl dda i eraill, yn ffrind, yn frawd ac yn fab anhygoel.
"Anfonwn ein cariad a'n cydymdeimlad dwysaf at Mike, Dawn a Josh yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
"Roeddet ti'n anhygoel, a byddwn yn dy gofio am byth."
Dywedodd Arlywydd Portiwgal, António José Seguro, fod marwolaeth Tarling yn "trochi'r peloton, y twrnamaint a'r wlad sy'n cynnal y digwyddiad mewn galar".

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ysgol Gynradd Aberaeron ei fod yn "gyn-ddisgybl gwerthfawr" a "llysgennad arbenning i'n hysgol".
"Gyda thristwch dwys a sioc mawr y clywodd cymuned Ysgol Gynradd Aberaeron am farwolaeth drasig Finlay Tarling heddiw," meddai'r ysgol.
"Roedd Finlay a'i frawd, Josh, yn gyn-ddisgyblion gwerthfawr o'n hysgol, ac mae'r newyddion torcalonnus hwn wedi effeithio'n ddwfn arnom oll.
"Roedd Finlay yn lysgennad arbennig i'n hysgol drwy ei lwyddiannau ym myd beicio, gan gynrychioli ei gymuned gyda balchder ac ymroddiad. Er ei lwyddiant a'i ddawn, byddwn yn ei gofio hefyd fel disgybl diymhongar, a oedd bob amser yn hynod gwrtais, caredig ac yn meddu ar foesau arbennig."
Ychwanegodd yr ysgol: "Ar ran holl staff, llywodraethwyr a disgyblion Ysgol Gynradd Aberaeron, hoffem estyn ein cydymdeimlad mwyaf diffuant â Dawn, Michael a Josh ar yr adeg dorcalonnus hon. Nid oes geiriau digonol i fynegi maint ein tristwch wrth glywed am y golled enfawr hon.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ei ffrindiau a phawb a gafodd y fraint o'i adnabod. Boed i chi gael cysur yng nghariad a chefnogaeth eich gilydd yn y dyddiau a'r wythnosau anodd sydd o'ch blaenau."
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: "Newyddion torcalonnus fod Cymru a'r byd beicio wedi colli un o'i sêr.
"Mae'r ffaith y bu i Finlay farw mor ifanc wrth wneud yr hyn yr oedd yn ei garu yn gwneud y golled hyd yn oed yn fwy trasig.
"Rwy'n anfon fy nghydymdeimladau dwysaf i rieni Finlay, ei frawd Josh, a'i holl deulu ac anwyliaid."
Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd yr Aelod o'r Senedd lleol Elin Jones bod yr hyn sydd wedi dgiwydd yn "drist a chreulon" a'i bod yn meddwl am y teulu annwyl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.