Bachgen 17 oed wedi gwaedu i farwolaeth ar y stryd - achos llys

Mae tri dyn ac un menyw wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth Tristan Kerr
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos llys wedi dechrau ar gyfer pedwar o bobl sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr ym mis Chwefror eleni.
Roedd teulu Tristan Kerr a fu farw ar ôl cael ei drywanu drwy ei galon a'i ysgyfaint mewn ymosodiad gyda chyllell, yn emosiynol wrth i'r llys glywed iddo waedu i farwolaeth ar y stryd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Tristan Kerr o Abertridwr mewn eiddo yn Stryd Lower Francis fis Chwefror 2026 gan Georgie Mears o Gaerdydd, a oedd yn 18 oed ar y pryd.
Mewn archwiliad post mortem, cafodd clwyf oedd yn mesur 13.5cm ei ganfod ar gorff Tristan Kerr.
Ar ôl dianc o'r eiddo, fe wnaeth Tristan ddisgyn i freichiau ei ffrind gan ddweud wrtho "dwi'n brifo - dwi'n dy garu di bro".
Fe glywodd llys y goron Casnewydd nad yw'r rheswm y tu ôl i'r weithred wedi dod i'r amlwg.
Mae Georgie Mears, sydd bellach yn 19 ac o Gaerdydd a thri arall, Ricardo Elliot, 27, heb gyfeiriad, Connor Palfrey, 25 o Abertridwr ac Elexi Manny, 25 o Gaerffili wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Tristan Kerr drwy gydweithio.
Mae'r pedwar yn gwadu'r cyhuddiadau.

O'r chwith i'r dde: Connor Palfrey, Elexi Manny, Georgie Mears a Ricardo Elliot yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ym mis Mawrth
Roedd y pedwar diffynnydd yn eistedd yn y doc yn ddi-emosiwn wrth wrando ar y dystiolaeth.
Fe wnaeth yr Erlynydd, Mr Michael Jones KC agor yr achos yn llys y Goron Casnewydd fore Mawrth gan gadarnhau fod y digwyddiad wedi digwydd y tu mewn i eiddo yn Abertridwr ar 5 Chwefror eleni.
Clywodd y llys fod y pedwar diffynnydd wedi treulio'r diwrnod gyda'i gilydd yn gyrru o amgylch Caerffili a Chaerdydd cyn cyrraedd Abertridwr yn hwyrach yn y diwrnod.
Elexi Manny oedd yn gyrru'r car arian VW.
Fe esboniodd Mr Jones KC mai tŷ Ieuan Crane, ffrind Tristan Kerr oedd lleoliad yr ymosodiad. Roedd ffrindiau yn aml yn treulio amser yno, ac roedd ci Tristan yn byw yno, felly byddai'n ymweld â'r lleoliad yn gyson.
Ar ddiwrnod yr ymosodiad, roedd Tristan a'i ffrind, Conah Davies wedi mynd draw i'r tŷ ac roedd y tri yn chwarae Fortnite – gêm gyfrifiadurol.
Erbyn 17:39 y noson honno roedd y car VW arian wedi cyrraedd y tu allan i'r eiddo yn Abertridwr.
Dywedodd KC Jones fod y pedwar diffynnydd wedi dod allan o'r car gyda'i gilydd ac i mewn i'r tŷ, gyda Connor Palfrey a Georgie Mears yn eu harwain.
Fe glywodd y llys fod Georgie Mears yn cario cyllell tua 10 modfedd gydag ef a bod Connor Palfrey yn cario ffon bren wrth fynd mewn i'r eiddo.
Aeth y pedwar i mewn i'r eiddo heb guro'r drws, gyda Georgie Mears yn rhuthro i'r ystafell fyw, lle'r oedd Tristan a'i ffrindiau, gyda rhywbeth yn gorchuddio ei wyneb.
Clywodd y llys fod Georgie Mears wedi ceisio trywanu Tristan Kerr "sawl gwaith" cyn ei glwyfo ar ochr chwith ei gefn.
Pedwar yn gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Mab 17 oed 'annwyl iawn' wedi marw o anaf trywanu - cwest
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Yn ystod yr ymosodiad, fe glywodd y llys fod Connor Palfrey yn "cefnogi Mears gan rybuddio ffrindiau Tristan a oedd yno ar y pryd i beidio ag ymyrryd".
Roedd y ddau ddiffynnydd arall, Ricardo Elliot ag Elexi Manny, wedi aros yn y cyntedd yn ystod yr ymosodiad ond "roeddent yn amlwg wedi gweld Georgie Mears a Connor Palfrey yn cario'r arfau".
Clywodd y llys fod Tristan Kerr wedi ceisio "amddiffyn ei hun" ond yn aflwyddiannus wrth i Mears ei drywanu yn fwriadol – gan ei drywanu drwy ei ysgyfaint ac i mewn i'w galon.
Dywedodd Mr Jones KC fod y pedwar wedi "gadael gyda'i gilydd am 17:41" a bod lluniau cylch cyfyng wedi gweld y car yn "gyrru ar gyflymder" o'r lleoliad.
Mae hynny'n golygu mai dwy funud yn unig oedd y diffynyddion yn yr eiddo.
Wedi i'r pedwar adael, fe wnaeth Tristan a'i ffrindiau adael yr eiddo, ond yn fuan wedyn fe wnaeth Tristan syrthio yn anymwybodol a bu farw ar y stryd.
Fe wnaeth yr heddlu gyrraedd gan weld nifer o bobl yn amgylchynu Tristan oedd ar lawr, yn anymwybodol.
Fe wnaeth sawl unigolyn gan gynnwys parafeddygon berfformio CPR ond bu farw yno.
Fe welodd y rheithgor luniau o'r car VW arian, a oedd yn cael ei yrru gan Elexi Manny, yn cyrraedd y cyfeiriad yn Abertridwr ac yna'n gadael, gan aros yno am funud a 56 eiliad yn unig.
Wrth i'r achos barhau brynhawn Mawrth, fe gafodd y rheithgor hefyd weld lluniau o'r dyddiau yn arwain at y digwyddiad ac o ddiwrnod yr ymosodiad honedig.
Fe welodd y rheithgor sgrinlun o neges Snapchat wnaeth Tristan Kerr ei hanfon at 14 o bobl, gyda'r gair "Flake" arni, gair sydd, yn ôl arbenigwr cyffuriau, yn cyfeirio at gocên, ac fe anfonwyd y neges ar ddiwrnod yr ymosodiad honedig.
Am 17:08, fe wnaeth Tristan Kerr gyhoeddi story ar Snapchat a oedd yn cynnwys tri emoji arwydd, ac yn ôl arbenigwr cyffuriau roedd hynny'n golygu bod y 'drug line' ar agor.
Cafodd ffôn Elexi Manny ei gymryd gan yr heddlu yn ddiweddarach, ond dywedodd ditectifs ei bod wedi gweld y story honno.
Fe gollodd Ricardo Elliot alwad gan Tristan Kerr am 16:42, gyda neges yn dweud "haha do'n i ddim wedi meddwl postio'r llun yna o ti", ond fe glywodd y llys nad oedd modd canfod pa lun oedd dan sylw.
Roedd y llys yn llawn emosiwn wrth i aelodau o deulu Tristan Kerr wylio clip ohono'n syrthio'n anymwybodol bedwar drws i lawr y stryd, cyn i'w ffrind, Conah Davies, geisio ei helpu a ffonio 999 yn dilyn yr ymosodiad honedig.
Dywedodd Mr Jones KC mai ond y pedwar diffynnydd sy'n gwybod beth oedd y rheswm y tu ôl i'r weithred, ond ei fod yn amlwg fod yr ymosodiad wedi cael ei gynllunio.
Yn dilyn yr ymosodiad, fe aeth y pedwar diffynnydd yng nghar Elexi Manny o Abertridwr i Henffordd, lle cafodd y pedwar, ar adegau gwahanol eu harestio.
Dywedodd Mr Jones KC, er bod yr ergyd angheuol wedi ei roi gan Georgie Mears, fod y pedwar ohonyn nhw yn rhannu'r cyfrifoldeb am ei lofruddiaeth, ac felly yn euog.
Mae'r achos yn parhau ac mae'r pedwar yn gwadu llofruddiaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.