Ffurfio côr newydd ar ôl 'troi at gerddoriaeth mewn cyfnod anodd'

Cafodd Alaw Llwyd Owen anafiadau difrifol mewn damwain car rai blynyddoedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae côr newydd wedi cael ei ffurfio yn ardal Dyserth ger y Rhyl wedi i ddwy ddynes droi at gerddoriaeth mewn cyfnodau anodd yn eu bywydau.
Cafodd Alaw Llwyd Owen a Jules Peters, gwraig y diweddar Mike Peters o'r grŵp The Alarm, y syniad am Gôr y Llew Coch gyda'i gilydd ar daith gerdded elusennol yn Sbaen.
Mi gafodd Alaw anafiadau difrifol mewn damwain car rai blynyddoedd yn ôl, tra bod Jules wedi cael triniaeth am ganser y fron ac wedi colli ei gŵr Mike i ganser y llynedd.
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Alaw fod y côr yn "gyfle i greu rhywbeth sydd potentially yn mynd i fod yn rhywbeth gwahanol ac unigryw".

"Mae 'na gerddorion anhygoel yn bodoli yma yng Nghymru," meddai Alaw
"'Nes i fynd ar daith gerdded o'r enw El Camino 'efo elusen n'ôl ym mis Ebrill a bryd hynny 'nes i a Jules gyd-gerdded a 'nath hi sôn ei bod hi am gychwyn côr a chynnig i fi os oedd gennyf fi ddiddordeb," meddai Alaw.
"Ac wrth gwrs - pwy sy'n dweud na? Nid yn unig i Jules, ond hefyd i'r cyfle i greu rhywbeth sydd potentially yn mynd i fod yn rhywbeth gwahanol ac unigryw.
"Felly, 'nath e' ddod o gydgerdded ac ein hangerdd ni'n dwy at gerddoriaeth a sut roedd hynny'n cysylltu 'efo'n gilydd."

Roedd Jules yn wraig i'r diweddar Mike Peters o'r grŵp 'The Alarm'
Nos Fawrth oedd ail ymarfer Côr y Llew Coch ac fe ddaeth dros 40 o bobl yno i fwynhau'r canu.
Dywedodd Jules Peters wrth BBC Cymru ei bod hi "wastad wedi bod eisiau cynnal côr yn y Llew Coch".
"Dwi'n meddwl o'n i'n aros am y person iawn ac Alaw oedd y person yna.
"Mi 'naethon ni fondio yn syth," meddai Jules, gan esbonio bod y ddwy wedi medru uniaethu gyda'i gilydd trwy eu cariad at gerddoriaeth.
"Roedd o'n teimlo fel cam naturiol. Mi 'nathon ni gynllun a dyma ni!"
Ychwanegodd Jules ei bod hi wedi caru'r ymarferion hyd yn hyn, y canu, a'r ffaith bod amrywiaeth o bobl o bob gallu ac oed yn dod yno i "gael hwyl" a sgwrs.

Alaw Llwyd Owen a Jules Peters mewn ymarfer
Eglurodd Alaw fod "cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o'm mywyd i ers pan o'n i'n hogan fach".
"Mae o'n rhywbeth 'da ni wedi bod yn defnyddio fel cymuned, fel teulu, mae o 'di bod yn rhan o'n bywydau ni drwy 'steddfodau a chorau lleol.
"Yn benodol, pan ges i ddamwain car ddifrifol a threulio amser yn yr ysbyty ac yn enwedig yn yr ICU roedd cerddoriaeth yn un arf allweddol really wnaeth gynnal nifer o aelodau'r teulu, ond hefyd 'naeth esmwytho'n ymennydd i a chadw hwnna'n gryf oherwydd y brain injury."
'Cerddoriaeth mor bwerus'
Esboniodd Alaw fod cerddoriaeth yn chwarae rhan allweddol wrth "ail-greu llwybrau'r ymennydd ac atgyfnerthu'r rheiny".
"Ges i cd 'naeth fy ffrind gora' greu ar 'y nghyfer i, a bob nos cyn gadael fy ngwely roedd Mam a Dad yn rhoi hwnna ymlaen.
"Ac felly mae hwnna'n sicr wedi bwydo pwysigrwydd cerddoriaeth i fi hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen.
"A 'dan ni just eisiau dod â hwnna n'ôl i'r gymuned 'wan trwy brofiadau'r ddwy ohono' ni 'efo'n gilydd a just rhannu'r neges 'na bod cerddoriaeth mor bwerus ac yn arf llesol i ni ddefnyddio."

Mae Evan, mab Jules a Mike Peters, yn aelod o'r côr hefyd
"Yn bennaf oll 'swn i'n licio bod pobl yn cael y cyfle i fod yn rhan o rywbeth ac yn rhan o greu cerddoriaeth, achos dwi ddim yn meddwl dyliwn ni amddifadu a bod o'n estron i neb i gael bod yn rhan o rywbeth cerddorol," meddai Alaw.
"Dylia fo fod yn rhywbeth accessible, yn rhywbeth i bawb.
"Felly mae'n drysau ni ar agor yn llwyr i bobl ymuno achos mae gwerth cerddoriaeth yn anhygoel i'n lles a'n hiechyd ni."
'Cerddorion anhygoel'
Ychwanegodd Alaw fod "yna gerddorion anhygoel yn bodoli yma yng Nghymru".
"A dwi'n meddwl os 'da ni'n gallu defnyddio hwnna i gyfrannu at les a bywydau pobl a gwneud iddyn nhw deimlo'n dda, y pŵer o ddod at ein gilydd ac i gymdeithasu a gwneud hynny drwy gerddoriaeth - dyna 'di'r nod.
"A phwy a ŵyr lle fyddwn ni'n mynd ac mae'n mynd i dyfu'n organig a dwi'n andros o gyffrous i weld."

Mae'r côr yn "rhywbeth i bawb", medd Alaw
Roedd Evan, mab Jules a Mike Peters, yno yn yr ymarfer hefyd a dywedodd fod y côr yn "really da i'r gymuned, oherwydd mae 'na ddim lot o Gymraeg yn mynd rownd Dyserth".
"Mae'n cael pobl i ganu. Mae lot o bobl yma heno sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg ond maen nhw'n dod i ganu yn Gymraeg.
"So yndi mae o'n neis iawn."
Fel rhywun brwd iawn dros ei gerddoriaeth, esboniodd Evan ei fod yn "hoffi corau", yn enwedig pan fo bandiau yn chwarae gyda nhw.
Ychwanegodd ei fod yn "eitha' sbesial pan ti'n gweld 50 o bobl yn canu'n Gymraeg".

Mae bod yn rhan o gôr yn "g'neud ti deimlo'n rhan o rywbeth", medd Sian Morris Jones
Daeth Sian Morris Jones o Ddinbych yn rhan o'r côr gan ei bod eisoes yn ffrindiau da gyda Jules ac Alaw.
"O waw! O'dd y lle yn llawn," meddai Sian am yr ymarferion, "a be' o'dd yn neis oedd bo' gen ti gymaint o bobl Cymraeg a di-Gymraeg yn cymysgu a dysgu caneuon Cymraeg.
"O'dd o'n really sbesial a gobeithio eith o'n bell dros y blynyddoedd nesa'.
"Mae o'n g'neud ti deimlo'n rhan o rywbeth. Ma' canu wastad 'di 'neud fi deimlo'n hapus ac o'n i'n teimlo colled fawr bo' fi ddim yn rhan o gôr bellach.
"Ond ma' hwn right up my street achos mae o mor gymdeithasol, ffrindiau yn dod at ei gilydd a chyfarfod pobl newydd - mae o'n deimlad mor neis," meddai Sian.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2025

- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022

- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2025
