'Amser wedi dod i ystyried cau Swyddfa Cymru yn San Steffan' - Drakeford

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gyrfa Mr Drakeford yn y Senedd i ben wedi iddo benderfynu peidio â sefyll yn yr etholiad ym mis Mai

GanIfan Ywain
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi awgrymu ei bod hi'n bryd cael gwared â Swyddfa Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod "yr amser wedi dod" i feddwl am gau'r adran o fewn Llywodraeth y DU sydd o dan oruchwyliaeth Ysgrifennydd Cymru.

Mewn cyfweliad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, nododd cyn-arweinydd Llafur Cymru ei bod yn "bwysig i bethau newid yn San Steffan".

Wrth ymateb, dywedodd yr AS Llafur, Ruth Jones fod yr awgrym yn un "hurt", gan ddadlau bod Stephen Kinnock, yr Ysgrifennydd Cymru presennol, yn "brwydro dros Gymru".

Mae dyfodol Swyddfa Cymru wedi bod yn destun cryn drafod ers dechrau datganoli, gyda sawl llywodraeth yn San Steffan wedi ystyried y posibilrwydd o greu un adran fyddai'n gyfrifol am Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.

Yn gynharach eleni, dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan y dylai swydd Ysgrifennydd Cymru barhau, ond bod angen sicrhau fod y rôl yn "llais dros Gymru o fewn y cabinet" yn hytrach na "llais Llywodraeth y DU yng Nghymru".

'Datganoli dyfnach yn bwysig i ni yng Nghymru'

Wrth gael ei holi a fyddai'n hapus i gael gwared â Swyddfa Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Ie, dwi'n meddwl bod yr amser wedi dod i feddwl am hwnna.

"Wrth gwrs oedd Tony Blair wedi meddwl am hwnna hefyd. Mae hwnna wedi bod yn rhan o'r trafodaethau yn San Steffan nid jest nawr ond am fwy na degawd.

"...Ar ôl chwarter canrif o ddatganoli mae'n bwysig i bethau newid yn San Steffan hefyd. (O ran) cael pobl sy'n gyfrifol yn unigryw am Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydyn ni wedi symud dros y pwynt yna yn fy marn i."

Pan ofynnwyd iddo am ei farn am sylwadau'r Prif Weinidog, Andy Burnham, am ddatganoli dyfnach yng Nghymru, ychwanegodd Mr. Drakeford:

"Dwi eisiau gweld datganoli dyfnach, mae hynny yn bwysig i ni yng Nghymru, a dwi eisiau gweld pwerau yn mynd tu fas i Gaerdydd, i gynghorau lleol ac asiantaethau eraill, ond nid gwneud hynny drwy fynd rownd y Senedd.

"Mae'n bwysig mynd drwy'r Senedd, ond drwy'r Senedd mas i'r rhanbarthau eraill."

Stephen KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stephen Kinnock ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru gan Andy Burnham ym mis Gorffennaf

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales fore Gwener, gwrthododd Ruth Jones yr awgrym bod angen cau Swyddfa Cymru.

"Mae gen i barch enfawr tuag at Mark Drakeford, ond i fod yn onest, mae o wedi ymddeol ac felly dylai adael i'r gwleidyddion sydd wedi eu hethol fwrw ymlaen gyda'u gwaith," meddai.

"O ran Swyddfa Cymru, yr unig berson o Gymru sy'n eistedd ar fwrdd y cabinet yw Ysgrifennydd Cymru, ac mae o yno yn brwydro dros Gymru.

"Dwi'n teimlo y byddai cael gwared â'r swyddfa yn hurt."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.