Mam Josh Roberts yn gobeithio y daw'r 'gwirionedd llawn' i'r amlwg

Josh RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae mam myfyriwr a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar dair blynedd yn ôl yn dweud ei bod yn gobeithio y daw'r "gwirionedd llawn" am farwolaeth ei mab i'r amlwg.

Roedd Mel Tookey yn siarad ar ôl gwrandawiad cyn cwest i farwolaeth Joshua Lloyd Roberts, a fu farw ym mis Mehefin 2023.

Roedd y dyn 19 oed, a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cerdded adref o'r gwaith yng Nghaethro yng Ngwynedd, pan gafodd ei daro ar ffordd yr A4085 rhwng Waunfawr a Chaernarfon.

Y gwrandawiad dydd Mercher ydy'r ail wrandawiad cyn cwest i gael ei gynnal ar gyfer marwolaeth Joshua Lloyd Roberts a dywedodd yr uwch grwner, John Gittins ei fod yn edrych ar yr achos "de novo", sef o'r dechrau.

Tomos Jones, Iwan Wyn, Josh Eden a Josh Roberts.Ffynhonnell y llun, Iwan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joshua Lloyd Roberts, myfyriwr 19 oed o Gymru, yn cerdded adref o'r gwaith yng Nghaethro pan fu mewn gwrthdrawiad

Ychwanegodd Mr Gittins, y bydd 13 o dystion yn rhoi tystiolaeth yn ystod y cwest llawn, ac mae'n disgwyl iddo bara tridiau.

Ar ôl clywed cyflwyniadau gan bobl o ddiddordeb yn yr achos, dywedodd y crwner y byddai'r 13 tyst yn cynnwys Darren Jones, sydd hefyd yn berson o ddiddordeb ac a gafodd gynrychiolaeth gyfreithiol yn y gwrandawiad cyn cwest.

Dywedodd Mr Gittins y byddai lluniau o'r archwiliad post-mortem a fideo camera corff o'r safle yn cael eu rhoi i batholegydd fforensig y Swyddfa Gartref i'w hadolygu, gyda'i adroddiad yn rhan o dystiolaeth y cwest.

Dyfarnodd hefyd y byddai datganiadau gan deulu Joshua am ei oddefgarwch (tolerance) i alcohol yn cael eu cynnwys yn y dystiolaeth.

Dywedodd Mr Gittins mai nid bwriad y cwest oedd rhoi bai ar rywun na datrys unrhyw gwynion, ond mai'r "maen prawf" oedd archwilio sut y bu farw rhywun a "sefydlu'r ffeithiau".

Dywedodd y byddai'r cwest yn ystyried a gafodd Joshua ei daro tra oedd yn sefyll neu'n gorwedd, ac a oedd yfed alcohol wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Byddai hefyd yn edrych ar ei ymddygiad cyn iddo adael ei ffrindiau i gerdded adref, meddai'r crwner.

Ychwanegodd nad yw mater sy'n "destun pryder i berson o ddiddordeb" o reidrwydd yn dod â'r mater hwnnw o fewn cwmpas cwest.

Dywedodd Ms Tookey fod cyrraedd y pwynt hwn wedi bod yn "amser hir maith" a bod y sefyllfa wedi bod yn "anhygoel o anodd".

"Rwy'n gobeithio y daw'r gwirionedd llawn i'r amlwg ynghylch pam y cafodd Josh ei gymryd oddi wrthym mor fuan pan oedd ganddo bopeth i fyw amdano," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi a'i theulu yn gobeithio am gwest "llawn a theg".

Nid oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer y cwest eto.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig