Pont newydd i gysylltu rhannau dwyreiniol a gorllewinol y brifddinas

Llun o bont dros yr afon Taf gan arlunyddFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o sut y gallai'r bont newydd edrych.

  • Cyhoeddwyd

Bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu dros yr afon Taf i gysylltu rhannau dwyreiniol a gorllewinol prifddinas Cymru.

Mae pwyllgor cynllunio cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo'r strwythur ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a fydd yn cysylltu y Marl yn Nhrelluest â pharc Hamadryad yn Nhrebiwt.

Mae'n ffurfio rhan allweddol o adfywio ardal Trem y Môr, gyda'r cyngor yn edrych i adeiladu 4,000 o gartrefi newydd a nifer o gymunedau newydd ar draws y ddinas.

Bydd y cyngor yn awr yn datblygu strategaeth ariannu ar gyfer y bont, a fydd yn 165m (541 troedfedd) o hyd ac yn chwe metr (19.6 troedfedd) o led.

"Bydd yn darparu llwybr diogel, addas ar gyfer cerdded a beicio, gan greu cysylltiad newydd rhwng ardal ddwyreiniol a gorllewinol ar draws yr afon a fydd yn annog teithiau mwy cynaladwy ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar geir," meddai Lynda Thorne, sy'n aelod o'r cabinet dros dai a chymunedau.

Llun o'r awyr o'r bont dros yr afon Taf gan arlunyddFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bont yn rhan o gynllun adfywio dinas Caerdydd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.