Parc Cenedlaethol Eryri i drafod saib ar waharddiad dadleuol ar barcio dros nos

Mae oddeutu 4 miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, gyda rhai yn parcio dros nos i wneud pethau fel gweld y wawr o gopa'r mynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Mae angen rhoi saib ar waharddiad ar barcio dros nos mewn rhai o feysydd parcio Parc Cenedlaethol Eryri, yn ôl adroddiad newydd.
Ers 1 Ebrill mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwahardd parcio dros nos mewn 11 safle er mwyn ceisio mynd i'r afael â "phroblemau yn ymwneud â campervans, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol".
Ond ers cyhoeddi'r rheolau newydd mae nifer o bobl leol ac ymwelwyr wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad gan ddadlau ei fod wedi arwain at fwy o bobl yn parcio dros nos mewn mannau answyddogol fel strydoedd preswyl.
Yn ôl un person lleol sy'n tywys pobl i fyny'r Wyddfa, mae'r gwaharddiad wedi effeithio ar allu pobl i barcio'n hawdd er mwyn dringo rhai o lwybrau llai poblogaidd y mynydd i weld y wawr.
Dydd Mercher bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod yr adroddiad, sy'n argymell rhoi saib ar y cynllun mewn naw o'r 11 safle.
'Dyw'r mynydd byth yn ddistaw'
Mae bron i 4 miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, gyda llawer o'r rheiny'n dechrau'r daith i gopaon y mynyddoedd yn oriau mân y bore er mwyn gweld yr haul yn codi.
Mae Bryn Hughes o Ddeiniolen yn un sydd wedi gwneud y daith sawl tro.
Yn rhedeg busnes lleol, mae'n arwain grwpiau i ben yr Wyddfa, gyda theithiau i weld y wawr yn boblogaidd iawn.
"Dwi 'mond wedi bod yn rhedeg y busnes ers pum mlynedd, ond fel rhywun lleol dwi wedi bod yn cerdded y mynyddoedd ers hirach, ac mae o 'di mynd lot mwy o ran niferoedd," meddai.
"Mae pobl isho mynd fyny pan mae'n ddistaw, ond mae mwy a mwy yn mynd fyny i weld yr haul yn codi rŵan, felly dyw'r mynydd byth yn ddistaw."

Mae dringo'r Wyddfa i weld yr haul yn codi wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn ôl Bryn Hughes
Er ei fod yn "gallu deall pwynt y parc yn trio atal campervans rhag parcio dros nos mewn meysydd parcio", mae Bryn yn dweud bod y gwaharddiad wedi cael gormod o effaith ar bobl eraill hefyd.
Dywedodd: "Dwi ddim yn cytuno efo campervans yn defnyddio maes parcio i wersylla, ti isho iddyn nhw ddefnyddio'r campgrounds a thalu'u ffordd, ond dwi'n meddwl bod stopio pawb parcio yn ystod oriau mân y bore ddim yn gwneud synnwyr.
"Pan 'dach chi'n meddwl am faint o bobl sydd yn mynd i fyny i'r mynydd i weld yr haul yn codi, mae angen llefydd iddyn nhw barcio, yn enwedig achos mae modd iddyn nhw wneud tipyn bach o bres gan y bobl yma."
Ychwanegodd: "Mae'r gwaharddiad wedi rhoi mwy o bwysau ar Lanberis hefyd achos mae sawl maes parcio yno felly mae'n haws mynd i fanno, ond dim ond un lle sydd ar gyfer llwybrau Waktin, Rhyd Ddu a Cwellyn felly os ma' gwaharddiad ma' pobl am barcio ar y stryd neu fynd i Lanberis yn lle."
'Gwneud eu busnes yn ein gerddi'
Nid Bryn yw'r unig un sydd wedi cwestiynu'r gwaharddiad.
Ym mis Ebrill, dywedodd pobl leol wrth y BBC eu bod yn ofni y byddai'r rheolau newydd yn annog mwy o bobl i barcio mewn strydoedd preswyl.
Dyna yn union sydd wedi digwydd yn ôl Richard Edwards, perchennog gwesty gwely a brecwast ym Metws-y-coed.
"Dyma un o'r unig strydoedd yn y pentref sydd heb gyfyngiadau parcio, felly mae o hyd wedi denu pobl mewn campervans, ond mae'r gwaharddiad parcio dros nos wedi gwneud pethau'n waeth," meddai.
"Mae yna barc gwersylla 300 llath i ffwrdd, ond maen nhw dal yn dod yma gan achosi trafferthion mynediad i'r stryd, gollwng sbwriel a hyd yn oed gwneud eu busnes yn ein gerddi a'n meysydd parcio."

Mae'r parc cenedlaethol wedi gwahardd pobl rhag defnyddio'r meysydd parcio rhwng 22:00 a 03:00
Cyn cyfarfod cyffredinol blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher, daeth adroddiad gan y prif weithredwr i'r casgliad bod angen rhoi saib ar y newidiadau i oriau agor y meysydd parcio yn y rhan fwyaf o'r safleoedd er mwyn ystyried yn llawn yr effaith ar ddefnyddwyr.
Ychwanegodd yr adroddiad fod problemau sy'n gysylltiedig â gwersylla dros nos yn cynnwys sbwriel, gwastraff dynol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â'r ffaith nad yw'n cefnogi safleoedd carafanau a gwersylla cyfreithlon sydd eisoes yn gweithredu yn yr ardal leol.
"Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb i'r broblem hon, er nad yw'n fater syml," meddai'r adroddiad, a fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod.

Mae sawl un o'r meysydd parcio dan sylw wedi eu lleoli o amgylch yr Wyddfa
Ar hyn o bryd, mae parcio dros nos wedi'i wahardd rhwng 22:00 a 03:00 mewn naw o'r safleoedd, a rhwng 22:00 a 06:00 yn Llyn Tegid a Llangywer.
"Y prif reswm am hyn yw nad yw defnyddio'r meysydd parcio hyn yn ystod y nos yn cael ei ystyried yn hanfodol i bobl allu mwynhau'r parc cenedlaethol.
"Prif ddefnydd y meysydd parcio hyn yw darparu mynediad yn ystod y dydd i Lyn Tegid a'r ardal gyfagos," meddai'r adroddiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylid cynnal ymgynghoriadau pellach gyda gwahanol sefydliadau a defnyddwyr y parc cenedlaethol cyn ailystyried y mater yn ddiweddarach eleni neu ddechrau 2027.
Daw'r adroddiad i'r casgliad: "Mae'n annhebygol y bydd un ateb syml neu gyflym i'r broblem hon, ond byddwn yn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd i geisio dod o hyd i ateb.
"Os na fydd modd dod o hyd i ateb llawn, byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill o leihau'r broblem."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.