200 tunnell o wastraff masnachol ar dân ym Mhort Talbot

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i dân mawr ar Ffordd y Dociau am 15:36 ddydd Mercher.
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân wedi cael eu galw ar ôl i oddeutu 200 tunnell o wastraff masnachol fynd ar dân ar safle ym Mhort Talbot.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i dân mawr ar Ffordd y Dociau (Dock Road) am 15:36 ddydd Mercher.
Maen nhw'n galw ar i bobl osgoi'r ardal honno tra bod y digwyddiad yn parhau.
Mae yna gyngor hefyd i bobl leol gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau os oes yna fwg trwchus yn yr ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.