Arestio dyn o Sir Gaerfyrddin yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Lloegr

Rob CampbellFfynhonnell y llun, Heddlu Glannau Mersi
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rob Campbell, tad i dri, yn 40 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth gyrrwr beic modur yng Nglannau Mersi.

Mae'r Cymro 38 oed yn un o ddau, sy'n gyrru gyda nwyddau trwm, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal neu'n anystyriol, a gyrru tra nad oedd yn ffit oherwydd cyffuriau.

Roedd y llall yn ddyn 28 oed o ardal Widnes yn Lloegr ac mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Mae'r heddlu'n credu bod un cerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad uniongyrchol â'r beiciwr modur, tra bod y cerbyd arall yn rhan anuniongyrchol o'r amgylchiadau a wnaeth arwain at y gwrthdrawiad.

Rhoddodd teulu'r dyn a fu farw, Rob Campbell - 40 oed o St Helen's - deyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn "dad ymroddedig i'w dair merch brydferth".

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd East Lancashire yn Haydock am tua 23:00, nos Lun 8 Mehefin.