Arlunydd o Geredigion yn arddangos ei waith yn Fenis

WynneFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Esboniodd Wynne Melville Jones fod y fraint yn "garreg filltir bwysig o safbwynt yr hyn dwi'n ceisio ei gyflawni drwy fy nghelf"

GanGwydion ap Llyr Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith arlunydd o Geredigion yn cael ei arddangos yn yr Eidal, fel rhan o arddangosfa ryngwladol sy'n cyd-fynd â'r Biennale enwog.

Bydd y darluniau gan Wynne Melville Jones, sy'n byw ac yn gweithio o'i stiwdio yn Llanfihangel Genau'r Glyn, yn cael eu dangos yn un o ganolfannau celf mwyaf blaenllaw'r byd.

Mae'r Palazzo Albritzz wedi'i lleoli yn Fenis ac mi fydd ei waith yn cael eu harddangos yn y ganolfan honno hyd ddiwedd y mis.

Buodd Wynne yn siarad ar y Post Prynhawn nos Wener ac esboniodd fod y fraint yn "garreg filltir bwysig o safbwynt yr hyn dwi'n ceisio ei gyflawni drwy fy nghelf".

DarlunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Eglurodd fod cael ei gynnwys yn yr arddangosfa yn "dipyn o gam i fi yn bersonol a dweud y gwir".

"Achos gwaith digon unig yw peintio llun mewn stiwdio ar ben eich hunan a dy'ch chi ddim yn siŵr beth fydd yr ymateb ac yn y blaen."

Er i Wynne gael hyfforddiant celf mewn colegau pan yn ifanc, "am ddeugain mlynedd wedi hynny - 'nes i ddim cyffwrdd y brwsh paent o gwbl".

"Pan 'nes i ymddeol, 'nes i benderfynu: 'Reit dwi'n mynd yn ôl at gelf," meddai.

Rhoddodd glod penodol i'r diweddar Ogwyn Davies o'i amser yn Ysgol Tregaron: "O'dd genna'i barch mawr at Ogwyn fel athro da ac fel artist da.

"Adeiladais i stiwdio fach yn yr ardd ac fe dyfodd e'n sydyn sydyn sydyn," meddai.

DarlunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Roedd y cyfle i arddangos ei waith yn Fenis yn deillio o'r ffaith bod cwmni marchnata o'r Swistir wedi dechrau dangos ei waith yn ddigidol mewn gwahanol ddigwyddiadau celf.

"O'n i'n amheus iawn o'r peth, dangoswyd y lluniau mewn llefydd fel Cologne, Paris, Milan a'r math yna o lefydd."

Ar ôl hynny cafodd Wynne gyfle i ddangos 12 llun mewn "ffair gelf anferth ar gyfer y byd", yn y Swistir am wythnos.

O'r cyfle hwnnw mi gysylltodd dynes o'r Eidal, oedd yn trefnu "arddangosfa i gyd-fynd â'r Biennale yn Fenis", gan ddweud ei bod eisiau cynnwys un o'i ddarluniau.

Mae'r Biennale yn arddangosfa gelf enwog a mawr sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

DarlunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Un llun oedd y bwriad gwreiddiol iddo ddangos yno ac mi ddatblygodd Wynne "syniadau lle'r oedd 'na ryw fath o berthynas yn y llun rhwng Cymru a Fenis".

Dywedodd ei fod "wastad wedi gweld" cyfleoedd o'r fath "fel rhan o fynd â Chymru allan i'r byd".

Dewisodd lun o Ynys Las yng Ngheredigion gerllaw i'w gartref, gan ei fod yn "le arbennig" a golygfeydd o amryw o ardaloedd yno.

"Mi gafwyd ymateb rhagorol," meddai, gan ddweud ei fod ar y ffordd adref pan iddo dderbyn gwahoddiad i arddangos 10 llun yn Fenis.

Mistar UrddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mistar Urdd ei greu gan Wynne Melville Jones ar 20 Chwefror, 1976

Doedd dim llawer o oedi rhwng y ddwy arddangosfa gyda Wynne newydd gyrraedd adref o Zurich.

"O'n i ddim yn siŵr i ddechre', ond o feddwl - dwi ddim am golli cyfle fel 'na ydw i?

"Mae'r cyfan wedi digwydd o fewn dyddie' chi'n gwybod," meddai.

Ychwanegodd Wynne fod yr arddangosfa yn cael ei chynnal mewn hen blasty o'r 15fed ganrif o adeg y Dadeni a hynny ar Sgwâr San Marco "reit yng nghanol y ddinas".

"Ma' rhaid cyfadde' bod e'n dipyn bach o hwb - mae e'n garreg filltir bwysig o safbwynt yr hyn dwi'n ceisio ei gyflawni trwy fy nghelf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol