Cymru'n curo Japan yng Nghystadleuaeth y WXV

Cafodd Freya Bell ei chario oddi ar y cae gydag anaf yn yr ail hanner
- Cyhoeddwyd
Enillodd tîm rygbi merched Cymru yn Japan ddydd Sadwrn yng Nghystadleuaeth y WXV, gyda sgôr o 0-17.
Seren Lockwood a Kelsey Jones sgoriodd y ceisiadau ac mi lwyddodd Cymru i gadw llechen lân ar ôl gweithio'n galed. Cafodd Lockwood ddau gais.
Er y llawenydd, siomedig i'r Cymry oedd gweld Freya Bell, y ciciwr, yn cael ei chario oddi ar y cae gydag anaf ar ôl gorwedd yn gafael yn ei choes.
Daw'r fuddugoliaeth yn dilyn colled yn erbyn America fis diwethaf a roedd Japan un safle yn is na Chymru yn nhabl y byd - yn 12fed.
Bydd y ddau dîm yn brwydro eto mewn wythnos, yn ninas Kumagaya yn Japan.

Hawliodd Seren Lockwood ddau gais ddydd Sadwrn
Cafodd Nami Asari, Japan, gerdyn melyn yn fuan yn y gêm ac roedd yn ymddangos fel petai Cymru wedi cymryd mantais yn syth wrth i Kelsey Jones sgorio cais.
Ond rhwystredigaeth oedd i ddilyn wrth i'r cais gael ei wrthdroi am rwystro gwrthwynebwr.
Ar ôl gwaith da yn ddiweddarach, mi gafodd Cymru eu gwobrwyo trwy Seren Lockwood, wrth i'r mewnwr sgorio a Freya Bell yn trosi.
0-7 i Gymru oedd y sgôr wrth i'r merched ei throi hi am yr ystafelloedd newid ar ôl 40 munud caled.
Mi sgoriodd Kelsey Jones yn yr ail hanner i ymestyn mantais Cymru, a Seren Lockwood yn hawlio ei hail hefyd yn dilyn sgrym.
Cafodd y ddau drosiad yn achosion rheiny eu methu.
Felly 0-17 i Gymru oedd y sgôr yn derfynol yn dilyn amddiffyn gwych, ac yn rhoi hyder i Gymru wrth iddyn nhw edrych ymlaen at wynebu Japan eto ddydd Sadwrn nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd26 Medi

- Cyhoeddwyd18 Medi
