'Byw gydag endometriosis fel cael morthwyl tu fewn i fi'

Mae Nia, 19, yn cael cyfnodau difrifol o boen wrth fyw gydag endometriosis
- Cyhoeddwyd
Dydy Nia Siggery, 19, ddim yn gallu codi o'r gwely oherwydd poen eithriadol a gwaedu trwm ambell ddiwrnod.
Fe gafodd hi ddiagnosis o endometriosis yn gynharach eleni ar ôl pedair blynedd o apwyntiadau meddygol, ac mae ar restr aros i gael llawdriniaeth.
Ond mae gynaecolegwyr yn rhybuddio fod canolfannau arbenigol yn y fantol, ac maen nhw'n galw am gomisiynu gwasanaeth cenedlaethol.
Dywedodd y dirprwy weinidog dros iechyd menywod yng Nghymru fod y trefniant presennol "ddim yn gynaliadwy" a'i bod yn trafod opsiynau ar gyfer gwasanaeth rhanbarthol neu genedlaethol i gael ei sefydlu.

Mae Nia'n wynebu llawdriniaeth o fewn y blynyddoedd nesaf
Gyda'i chyflwr yn gwaethygu a'r endometriosis wedi'i ddarganfod mewn tri lle, dywedodd Nia - sy'n byw yng Nghaerfyrddin - ei fod yn bosib y bydd angen iddi fynd i ganolfan arbenigol yn y dyfodol.
"Weithiau, mae'r boen mor wael fi ffaelu codi mas o'r gwely. Os fi'n sefyll, fi mewn poen, ac os fi'n eistedd, fi mewn poen," dywedodd.
"Mae'r boen yn teimlo fel bod rhywun gyda hammer tu fewn fi yn bwrw fi."
Dywedodd iddi gael "sioc" o glywed fod risg yn wynebu canolfannau arbenigol yng Nghymru.
"Fi eisiau i rywun i wrando, fi eisiau i rywbeth gael ei wneud, achos fi ffaelu delio gyda [y boen] rhagor," ychwanegodd.
"Mae'n mynd i neud e'n anoddach i gael help, i gael rhywun sy'n mynd i wrando."

Mae Bethan Jenkins, 41, wedi talu'n breifat i gael llawdriniaethau
Mae'r corff achredu cenedlaethol, BSGE (British Society for Gynaecological Endoscopy), wrthi'n cyflwyno newidiadau.
Ond mae hynny wedi pwysleisio'r heriau sy'n wynebu ysbytai yng Nghymru o ran adnoddau.
Mae staff clinigol wedi dweud na fydd gofynion achredu BSGE yn cael eu bodloni oni bai bod mwy o adnoddau'n cael eu canfod i gynyddu capasiti a neilltuo timau i ofal endometriosis.
Fe wnaethon nhw rybuddio y byddai hyn yn arwain at ddiraddio gwasanaethau, colli sgiliau, a niferoedd mawr o gleifion yn cael eu hanfon i Loegr i gael gofal.
Mewn cyfarfod grŵp trawsbleidiol y Senedd ar iechyd menywod yn ddiweddar, dywedodd gynaecolegwyr fod angen naill ai gwasanaeth cenedlaethol ar Gymru, neu adolygiad trylwyr o'r model ariannu er mwyn adlewyrchu gwir gost y gofal arbenigol yn well.
Mae hon yn alwad sydd wedi ei hadleisio gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, a ddywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "ymrwymo i ddarparu adnoddau cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gynaecoleg – gan gynnwys niferoedd digonol o staff, hyfforddiant staff a chyfleusterau priodol ledled y wlad".
'Menywod yn cael eu methu heb arbenigwyr'
Fe gafodd Bethan Jenkins, 41 o Gwmaman ger Aberdâr, ddiganosis o endometriosis yn 2021 ac ers hynny, mae wedi talu'n breifat i gael llawdriniaethau.
"Os oedd y canolfannau yma yn colli accreditation, bydde fe just yn cael effaith andwyol ar fywydau cynifer o bobl," dywedodd.
"Fi'n credu galle fe fod yn gatastroffig - ddim yn unig i'r bobl sy'n dioddef - ond i bobl sydd dal ar y siwrnai 'na i gael eu diagnosis nhw.
"Bydde fe'n golygu mwy o deithio, mwy o gost, i'r bobl hynny sy'n aros am lawdriniaeth a ma' 'na son am bobl yn gorfod mynd i Loegr.
"Dyw e ddim yn deg fod menywod yn cael eu methu achos bod dim digon o arbenigwyr."

Mae Bethan yn rhannu ei phrofiadau o fyw gydag endometriosis ar gyfryngau cymdeithasol
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ychwanegu eu canolfan endometriosis arbenigol at eu 'cofrestr risg', gan ddweud y gallai newidiadau gan BSGE olygu gorfod cau.
Yn ystod y cyfarfod trawsbleidiol, dywedodd un o lawfeddygon y ganolfan, Lutfi Shamsuddin, fod y problemau'n ymwneud â dyrannu amser penodol i dîm arbenigol gymryd rhan mewn achosion cymhleth, a sicrhau bod llawfeddygon yn cwblhau isafswm o lawdriniaethau bob blwyddyn.
Dywedodd fod mynediad cyfyngedig at ddigon o amser theatr yn golygu y gallai llawfeddygon unigol fod yn methu â chyflawni'r swm o waith sy'n ofynnol i gyrraedd y trothwy ar gyfer achrediad BSGE.
Yn ogystal, mae'n rhaid i bob canolfan achrededig gael gynaecolegwyr, nyrsys arbenigol, llawfeddygon colorectol, wrolegwyr a radiolegwyr penodedig, gyda chyfnodau wedi'u neilltuo yn eu rotas ar gyfer gofal endometriosis o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Yn ôl amcangyfrifon, mae tua un o bob deg menyw yn byw gydag endometriosis.
Ar gyfer achosion sy'n cael eu hystyried yn fwy difrifol ac sy'n gallu effeithio ar organau eraill fel y bledren a'r coluddyn, mae menywod yn cael eu cyfeirio at un o ddwy ganolfan sydd wedi'u hachredu gan y BSGE.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro hefyd yn ystyried cyfeiriadau o Gwm Taf Morgannwg, tra bod Bae Abertawe yn derbyn cyfeiriadau gan Hywel Dda.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ceisio cael achrediad, ac yn ystyried cyfeiriadau o Bowys.
'Gobaith' y gallai profion newydd gyflymu diagnosis endometriosis
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
'Endometriosis yn gorfodi pobl i newid gyrfa'
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
Dywedodd gynaecolegwyr wrth y cyfarfod y gallai'r heriau difrifol yng Nghaerdydd "gael eu hailadrodd yn hawdd mewn canolfannau eraill yng Nghymru".
Dydy Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ddim wedi gosod y gwasanaeth ar eu 'cofrestr risg', ond maen nhw hefyd yn wynebu heriau gyda gweithlu ac adnoddau.
Ychwanegodd David Fluck, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ei fod am roi sicrwydd i gleifion eu bod yn "gweithio tuag at wella cynaliadwyedd tymor-hir y gwasanaeth yn unol â'r cynllun iechyd menywod".
Dywedodd Abigail Holmes, cyfarwyddwr y bwrdd clinigol ar gyfer menywod a phlant o fewn y bwrdd iechyd, wrth y cyfarfod mai "yr unig ffordd y gall y gwasanaeth oroesi" yw comisiynu gwasanaeth cenedlaethol gan bwyllgor comisiynu ar y cyd GIG Cymru (NWJCC).
'Cydnabod y pryderon'
Mae'r NWJCC yn cynnwys pob un o'r saith bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, sy'n cyfrannu at ei gyllideb o tua £1.14 biliwn – swm sy'n talu am ystod o wasanaethau arbenigol, ambiwlansys a rhaglenni cenedlaethol eraill.
Mae'n ystyried datblygiadau neu geisiadau am gyllid sy'n cystadlu â'i gilydd o fewn y gyllideb benodol honno.
Fe gafodd gwasanaethau endometriosis eu trafod ym mis Mehefin 2024 fel maes posib i'w gomisiynu, ond ddigwyddodd hynny ddim, gan nad oedd buddsoddiad newydd ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol ar gyfer 2026-27.
Dywedodd llefarydd ar ran yr NWJCC eu bod yn "cydnabod y pryderon sy'n cael eu codi ynghylch dyfodol gwasanaethau endometriosis yng Nghymru".
"Mae'n ymwybodol o geisiadau am ddull comisiynu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau endometriosis cymhleth," ychwanegodd.
"Mae'r cyfrifoldeb am gynllunio, ariannu a chomisiynu'r gwasanaethau hyn yn parhau gyda byrddau iechyd unigol ar hyn o bryd.
"Bydd yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, clinigwyr, cynrychiolwyr cleifion a rhanddeiliaid eraill, lle bo'n briodol, i gefnogi trafodaethau ynghylch dyfodol gwasanaethau endometriosis arbenigol yng Nghymru."

Mae Delyth Jewell AS yn dweud bod angen sicrwydd ar fenywod
Dywedodd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Menywod, ei bod wedi cael sicrwydd gan gadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i gynnal achrediad.
"Mae pawb yn cytuno nad yw'r trefniant presennol yn gynaliadwy," meddai.
"Ni allwn adael hyn i ewyllys da byrddau iechyd unigol. Rwy'n awyddus i ni edrych ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cynaliadwy ar gael.
"Oherwydd bod menywod eisoes yn aros yn rhy hir i symptomau endometriosis gael eu canfod. Mae hyn yn rhywbeth nad oes modd cyfaddawdu arno i mi – rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau i fod ar gael."