Teulu'n diolch i'r Urdd ar ôl i'w mab gyda Syndrom Down allu cystadlu

Mae Sion Davies, 20, wedi bod wrth ei fodd yn dawnsio a chystadlu gydag Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi diolch i'r Urdd am gynnig cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod eleni i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Wedi bod yn rhan o Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn 12 oed, dyma fydd y tro cyntaf y bydd Sion Davies yn medru cystadlu'n unigol mewn categori sy'n addas ar ei gyfer.
Mae'r gystadleuaeth 'Perfformiad unigol dan 25 i ddisgyblion ysgolion/Unedau ag Anghenion Dysgu Ychwanegol' yn un o nifer o gystadlaethau newydd fydd yn rhan o'r ŵyl eleni.
Daw hyn wrth i'r ŵyl ymestyn i saith diwrnod am y tro cyntaf.
'Fi'n barod!'
Bellach yn 20 oed mae Sion Davies wedi bod wrth ei fodd yn dawnsio a chystadlu gydag Aelwyd Cynwyl Elfed ers yn ifanc.
Gyda chystadlaethau newydd yn rhan o'r Eisteddfod eleni, bydd y dyn ifanc yn medru cystadlu'n unigol am y tro cyntaf - profiad mae e'n edrych ymlaen yn arw ar ei gyfer.
"Fi'n barod. Dim fi yn nerfus" meddai, "Fi'n barod!"
Gyda'r gystadleuaeth yn rhoi rhyddid i'r unigolyn berfformio mewn unrhyw gyfrwng, mae Sion wedi penderfynu clocsio.

"Bues i'n pori drwy'r rhestr destunau a weles i bod 'na gystadleuaeth newydd eleni a meddwl 'sgwn i os bydde Sion â diddordeb?'…" meddai Meryl Jones
Meryl Jones yw un o'r arweinyddion sydd wedi bod yn ei ddysgu, gan ymarfer ddwywaith yr wythnos.
"Bues i'n pori drwy'r rhestr destunau a weles i bod 'na gystadleuaeth newydd eleni a meddwl 'sgwn i os bydde Sion â diddordeb?'…" meddai,
"Fi'n credu bod e wedi mynd adref a dweud wrth mam a dad bod e'n mynd i neud e ar ben ei hunan, sai'n credu bo nhw wedi cweit credu fe, o'n nhw'n meddwl bod e wedi camddeall pethau fi'n credu, ond ni wedi mynd ati a fi'n credu bod e wedi pasio unrhyw ddisgwyliadau oedd gyda ni."
Yn hynod o falch o'i fab, dywedodd Arwel, tad Sion, ei fod yn "browd iawn" ohono.
"Mae e wedi cystadlu sawl gwaith gyda'r aelwyd yn y clocsio mawr ond tro hyn mae e'n gwneud e am y tro cyntaf ar ben ei hunan," meddai.
"Mae e'n fendigedig, mae e'n mwynhau gwneud e, mae e'n edrych 'mlaen iddo fe."
'Ni'n ddiolchgar iawn'
Wrth ddisgrifio datblygiad ei fab gyda'r aelwyd dros y blynyddoedd, ychwanegodd Arwel Davies:
"Dechreuon nhw off gyda jyst tamaid bach ar y tro a mae e wedi gweithio ffordd lan a mae e'n gwneud lot fwy nawr a mae e wedi dysgu tipyn o ddawns nawr ac mae e wedi gwneud yn arbennig."
Mae mam Sion, Diane yn dweud eu bod fel rhieni yn ddiolchgar am garedigrwydd pobl yn yr aelwyd.
"Ni fel rhieni yn lwcus iawn o bobl yn fodlon helpu fe i traino fe a chwarae piano…
"Ni'n ddiolchgar iawn.
"Ni mor falch i Sion gael y cyfle achos roedd Sion yn hoffi gwneud pethau ei hunan, ni'n ddiolchgar iawn i'r Eisteddfod am gael y gystadleuaeth newydd i Sion gael y siawns i ddawnsio."
Bydd Sion hefyd yn cystadlu mewn cystadleuaeth dawnsio grŵp gyda'r aelwyd- grŵp mae nifer o'i ffrindiau a'i chwaer fach, Mair, hefyd yn rhan ohono.

Mae Esther Defis sy'n aelod o Aelwyd Cynwyl Elfed yn dweud bod Sion yn dod ag elfen arbennig i'r cyfan
Yn ôl Esther Defis, 21, o'r aelwyd mae Sion yn "gwneud y grŵp gymaint gwell".
"Fe yw'r un sy'n dod â'r egni i ni, mae e mor fywiog bob ymarfer, a mae e'n dod a gwên i wyneb pawb achos gymaint mae e'n mwynhau'r clocsio. Mae e'n annog ni i fwynhau gymaint ag e."
Dywedodd Avril Goodman, un o'r arweinyddion eraill bod aelodau'r aelwyd yn derbyn Sion "fel un ohonyn nhw".
"S'neb yn cwyno bod e gyda nhw, maen nhw'n derbyn e fel rhan o'r tîm," meddai.
Cyfieithu neges heddwch yr Urdd i 75 o ieithoedd
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cymunedau Môn yn harddu'r fro i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Yn barod i "weiddi amdano fe", dywedodd Esther fod y grŵp cyfan yn edrych ymlaen i weld Sion yn cystadlu ar ben ei hun ddydd Sadwrn.
"Mae e'n mwynhau perfformio gymaint, ac o'r diwedd mae e'n cael y cyfle i serennu ar ben ei hun heb bod ni yn tynnu fe lawr mewn ffordd. Fi'n credu bydd e'n brofiad gwych iddo fe a bydd e'n mwynhau yn fawr…
"Ni gyd yn browd iawn o Sion bob tro a gymaint o ymdrech mae e'n rhoi i bopeth."
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ynys Môn eleni, ac am y tro cyntaf, yn ŵyl saith diwrnod o hyd.
Gwnaed hynny, yn ôl y mudiad, mewn ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd oedd yn cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Mae disgwyl i'r cystadlaethau newydd gynnig "mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â'r Gymraeg drwy'r celfyddydau", medd y trefnwyr.