'Bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio Llwybr Dyffryn Tywi'
- Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr

1 o 5
- Cyhoeddwyd
Mae llwybr newydd 13 milltir o hyd sy'n eich tywys "drwy un o dirweddau mwyaf prydferth Cymru" wedi agor yn swyddogol yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ymestyn o Abergwili hyd at Landeilo mae Llwybr Dyffryn Tywi'n cynnig llwybr gerdded "diogel a fflat" i gerddwyr, beicwyr ac olynwyr.
Gobaith Cyngor Sir Gaerfyrddin yw y bydd yn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw gan gefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, rhoi hwb i'r economi leol a denu twristiaeth.
"Mae mor gyffrous i'r ardal," medd un sy'n byw yn lleol, gydag un arall yn credu y "bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio'r llwybr yma".

Mae Manon Lloyd, cyn-feiciwr proffesiynol, yn hanu o'r ardal ac wrth ei bodd â'r llwybr
Un o'r rhai cyntaf i fanteisio ar y llwybr wedi'r agoriad swyddogol yw'r cyn-feiciwr proffesiynol Manon Lloyd, ynghyd â disgyblion Ysgol Nantgaredig.
"Mae mor gyffrous," ac "yn rhywbeth rili dda i'r ardal," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Ers i fi fod yn seiclwr proffesiynol, yr hewl o Gaerfyrddin i Landeilo oedd un o hewlydd ffefryn fi" ond mae'n brysur gyda cheir a thraffig meddai.
Felly mae'n credu'n gryf bod cael llwybr hollol ddiogel, fflat, heb geir yn hollbwysig i ddenu beicwyr newydd.
Wrth fynd ar hyd y llwybr troellog chi'n cael eich tywys heibio sawl atyniad, gan gynnwys Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr.

Yn ôl Dr Neil Lewis sy'n byw'n lleol mae'r llwybr yn "top class" a "mor olygus".
"Mae mor saff i seiclo nawr - ti'n gweld pob oedran yn defnyddio fe ac mae'r wên yn glir ar bob wyneb o glust i glust".
Mae'r llwybr yn dilyn llawer o'r hen linell reilffordd ac mae'n eich cymryd yn agos hefyd at Amgueddfa Caerfyrddin a Pharc yr Esgob yn Abergwili, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasne a Gelli Aur.
"Bydd e'n sbarduno'r economi," meddai Dr Lewis.
"Mae coffi ar gael yn Abergwili, Nantgaredig a Llanarthne. Mae llefydd yn agor lan nawr a llefydd yn cael staff newydd, so mae'n rili gyffrous."
Effaith adeiladu llwybr beicio yn Sir Gâr yn 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2025
Agor llwybr beics er gwaethaf diffyg caniatâd
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
Er gwaethaf rhai pryderon gan dirfeddianwyr am y llwybr, mae Cyngor Sir Gâr yn ei ddisgrifio fel ''coridor diwylliannol a hamdden allweddol".
Mae Manon Lloyd yn edrych ymlaen at fynd â'r plant yno peth cyntaf ddydd Gwener gan ddweud drwy "ddechrau bore ti'n seiclo ar lwybr mor berffaith â 'na mae'n ddechrau da i'r diwrnod".
"Ti'n gallu dweud o'r dechrau mae iechyd pobl mynd i wella" meddai Dr Lewis gyda mwy yn teimlo'n gyfforddus i fynd allan i gerdded a beicio ond mae hefyd yn credu o ystyried yr holl olygfeydd y "bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio'r llwybr yma".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.



