'Does dim geiriau': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Bydd rhagor o aelodau yn cael eu derbyn i'r Orsedd ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Roedd cylch yr Orsedd dan ei sang fore Llun wrth i ddegau o bobl gael eu hurddo yn Eisteddfod y Garreg Las.
Gyda'r haul yn gwenu ar y maes, daeth cannoedd i wylio'r seremoni.
Roedd yr anrhydedd yn foment emosiynol i'r actores Gillian Elisa o Lanbedr Pont Steffan.
"Does dim geiriau a dweud y gwir, o'n i'n nerfus ofnadwy ac oedd e'n brofiad cynhyrfus iawn.
"O'n i jyst yn meddwl am fy nheulu... emosiynol... wedi mwynhau ac yn ddiolchgar iawn," meddai wrth i ddeigryn dod i'w llygaid.
Doedd dim rhaid dyfalu beth oedd ei henw barddol - Gillian Elisa wrth gwrs!
'Nod fach i Richard a Wyn'

Fflur enillodd goron Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc llynedd
Roedd y seremoni hefyd yn arbennig i'r rhoces leol, Fflur James, a enillodd goron Eisteddfod y Ffermwyr ifanc.
"Dwi'n dod o Lantwd a does neb erioed wedi clywed am Lantwd," meddai.
"Fi 'di treulio fy oes yn esbonio i bobl bo' fi'n byw rhwng Eglwyswrw ac Aberteifi, ond wedd cael fy urddo bore 'ma yn Llantwd, wedd e'n un o'r profiadau dwi am gofio am weddill fy oes."
Fflur o'r Riviera yw ei enw barddol, ond pam?
"Achos wrth gwrs y gân enwog gan fois Fflach - y Riviera Gymreig - a we' nhw'n ffrindie ffyddlon iawn iawn i ni, felly roedd nod fach i Richard a Wyn yn rhywbeth pwysig iawn, iawn ro'n i eisiau gwneud."

"Ma' 'neud e gartre' jyst yn brofiad sbesial," meddai Caleb Nicholas
Un arall o'r ardal a gafodd ei urddo fore Llun oedd Caleb Nicholas.
Fe enillodd Caleb wobr goffa Osborne Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.
Roedd wrth ei fodd yn cael ei urddo yn ei filltir sgwâr.
"Roedd ennill gwobr Goffa Osborne Roberts llynedd yn fraint aruthrol ac mae cael fy nerbyn yn bleser pur ac yn anrhydedd.
"Ond ma' 'neud e gartre' jyst yn brofiad sbesial i fi, a ma' gymaint o bobl o'r ardal wedi dod 'nôl i gael eu derbyn hefyd.
"Mae'n brofiad bendigedig."
Dywedodd fod ei deulu yno i wylio "a ma' fy chwaer i yn y wisg werdd - mae'n sbesial iawn".
Gillian Elisa dan deimlad ar ôl cae ei hurddo
Ymysg y teuluoedd a'r ffrindiau o bob cwr o Gymru, roedd y seremoni yn arbennig i deulu'r Archdderwydd hefyd.
Fore Llun fe wnaeth Mererid Hopwood groesawu ei merch, Hanna Hopwood Griffiths i'r Orsedd.
Wrth siarad â Cymru Fyw cyn y seremoni, dywedodd Hanna ei bod "wir yn edrych ymlaen at heddiw".
"Bydd cael fy urddo gan Mam yn gwbl arbennig - mae wedi gwneud gwaith gwych dros y blynyddoedd 'ma.
"A fan hyn yn Eisteddfod y Garreg Las, ma' cymaint o gysylltiadau teuluol gyda ni, o'n i'n meddwl 'pa le gwell i ddod i gael fy urddo?'.
"Mae'r tissues yn barod yn y boced gyda fi!"

Yr Archdderwydd Mererid Hopwood gyda'i merch Hanna
Cafodd dwy ferch a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eu hurddo hefyd.
Dywedodd Elin Williams ei fod yn "brofiad cyffrous iawn ac yn rhywbeth bach ychwanegol i'r wobr hefyd, mae'n neis iawn".
"Mae'n brofiad hollol newydd a mae'n neis bod y tywydd yn braf ac mae am fod yn fore bach neis."
Ychwanegodd Lleucu Haf Thomas, enillydd y Fedal Gelf y llynedd ac sydd hefyd yn ferch leol, ei fod yn "braf iawn cael fy nerbyn i'r Orsedd yma".
"Dwi wedi bod yn brysur iawn – newydd gystadlu gyda'r ensemble offerynnol, a bydda i hefyd yn perfformio yn Sefyll ar y Sgwâr heno.
"Fy enw barddol yw Lleucu Cynllo. Cynllo yw enw fferm ochr fy nhad yn Llangynllo, a chefais fy medyddio yn eglwys y pentref."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.