Gwrthod apêl i ostwng dedfryd wedi marwolaethau padlfyrddwyr

Nerys Bethan Lloyd y tu allan i'r llys yn ystod gwrandawiad blaenorolFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Bethan Lloyd y tu allan i'r llys yn ystod gwrandawiad y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cais cyn-berchennog cwmni padlfyrddio am yr hawl i apelio yn erbyn hyd ei dedfryd wedi marwolaeth pedwar o bobl ar afon yn Hwlffordd, wedi'i wrthod.

Bu farw Paul O'Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley ar ôl bod yn padlfyrddio ar yr Afon Cleddau, Sir Benfro, ym mis Hydref 2021.

Fe wnaeth Nerys Bethan Lloyd, 41 oed oedd yn gyn-swyddog heddlu o Bort Talbot, gyfaddef dynladdiad trwy esgeulustod difrifol yn Llys y Goron Abertawe a chafodd ei charcharu am gyfanswm o 10 mlynedd a chwe mis.

Cafodd dadleuon David Elias KC bod y ddedfryd yn "ormodol" eu gwrthod gan dri barnwr llys apêl.

Dywedodd Ms Ustus May wrth y llys apêl bod penderfyniad y barnwr yn un teg o ystyried nifer y dioddefwyr.

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref 2021, wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.

Bu farw Mr O'Dwyer, 42 o Aberafan, Ms Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad swyddogol feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.

padlfyrddwyrFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith ar y diwrnod hwnnw.

Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.

Dywedodd yr adroddiad yn 2022 eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".

Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.