12 awr o 'waith tîm, sgil a gwytnwch' i glirio 'afon o sbwriel' o fynydd

Gwirfoddolwr gyda bag sbwriel yn barod i'w godi i dop y mynyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwr gyda bag llawn sbwriel yn barod i'w godi gyda rhaffau i dop y mynydd

GanIolo Cheung
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwyr wedi glanhau yr hyn a gafodd ei ddisgrifio fel "afon o sbwriel" yn llifo oddi ar fynydd yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau eu bod nhw wedi cael gwared ar dros dunnell o wastraff o Fynydd Bwlch dros y penwythnos.

Oherwydd y tirwedd "heriol", roedd yn rhaid i'r timau ollwng eu hunain i lawr gyda rhaffau, gan gymryd 12 awr i glirio sbwriel oedd wedi pentyrru ar y safle.

Cafodd eu hymdrechion eu canmol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, a ddywedodd ei bod hi'n "hollol annerbyniol" fod pobl wedi trin y lle fel "man personol i waredu sbwriel".

Disgrifiad,

Fideo drôn o ddechrau'r flwyddyn yn dangos y gwastraff sydd wedi'i adael ar Fynydd Bwlch

Ym mis Ionawr fe wnaeth blogiwr teithio, Nathan Dixon, dynnu sylw at y gwastraff ar hyd ochr Mynydd Bwlch gyda lluniau drôn yn dangos maint y broblem.

Ar y pryd roedd modd gweld y llanast o hyd at "bum milltir i ffwrdd", meddai, tra bod perchennog y tir Katie Davies yn dweud fod y golygfeydd "afiach" yn dorcalonnus.

Roedd sbwriel i'w weld wedi ymgasglu dros gyfnod o amser ar ôl cael ei daflu o le parcio ar frig Mynydd Bwlch, gan ddisgyn ar dir serth oedd yn anodd ei gyrraedd.

Llun o'r awyr sy'n dangos pa mor serth yw ochr y mynydd - mae un gwirfoddolwr ar raff rai medrau i lawr y mynydd ac mae tri arall ar y lôn ar y top wrth eu cerbydauFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Dyma awgrym pa mor serth yw ochr y mynydd

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod y gwastraff oedd wedi ei dipio'n anghyfreithlon yn cynnwys sbwriel masnachol a chartref, fel "teiars, byrddau plaster, bagiau sment, nwyddau gwyn, a thunelli o sbwriel rhydd".

Ychwanegodd y cyngor fod tystiolaeth o bobl yn dringo lawr i losgi'r sbwriel er mwyn cael gwared â'r dystiolaeth, a bod hynny wedi creu perygl i fywyd gwyllt a'r amgylchedd.

Ond gydag amodau tywydd ffafriol dros y penwythnos, roedd modd i'r cyngor gydweithio gyda'r tîm achub mynydd i waredu'r sbwriel.

Dau ddyn mewn ofarôls gwyn, un gyda helmed coch am ei ben gyda'u cefnau at y camera yn sefyll ar y mynydd o flaen ffrâm fetel sy'n cynnal system rhaffauFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiodd y gwirfoddolwyr system o raffau i dynnu tunelli o sbwriel i fyny'r llethrau

"Roedd hyn yn lot mwy na chasgliad sbwriel," meddai Pete Spearing o Dîm Achub Mynydd Canol y Bannau.

"Dros 12 awr, fe wnaeth y tîm ddefnyddio cilomedr o raff a thynnu ymhell dros dunnell o sbwriel yn ôl i'r brif ffordd gan ddefnyddio systemau achub rhaffau arbenigol.

"Roedd y tirwedd yn heriol, yr amodau yn gofyn tipyn, ac roedd angen lot fawr o waith tîm, sgil a gwytnwch gan bawb."

Gwirfoddolwyr ar y mynydd yn casglu sbwriel Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen gwaith tîm arbennig i gasglu'r gwastraff mewn safle mor heriol, meddai Pete Spearing

Ychwanegodd Ms Rees na allai fod "yn fwy balch o'r tîm".

"Nid yn unig wnaeth ein gwirfoddolwyr roi eu hamser i gymryd rhan yn yr her yma a gweithio'n ddiogel ar dirwedd mor anodd, ond drwy gydol y dydd fe wnaethon ni hefyd ymateb i bedwar galwad achub mynydd.

"Mae'r ymroddiad yna'n dweud popeth am broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr."

Dau wirfoddolwr mewn ofarôls gwyn a helmedau yn casglu sbwriel ar y mynyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o'r eitemau a gafodd eu casglu yn bethau y mae modd eu gwaredu a'u hailgylchu trwy wasanaethau gwastraff y cyngor sir

Er mai tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am glirio gwastraff sydd wedi ei dipio ar dir preifat yn ôl y gyfraith, dywedodd y cyngor eu bod wedi camu i'r adwy y tro yma oherwydd "perygl sylweddol a maint y safle".

"Mae Mynydd Bwlch yn cynnwys rhai o'n golygfeydd cefn gwlad mwyaf godidog ni, ac mae'n hollol annerbyniol fod lleiafrif yn ei drin fel man personol i waredu sbwriel," meddai arweinydd y cyngor Ann Crimmings.

Ychwanegodd na fydden nhw'n goddef sbwriel yn cael ei daflu mewn modd tebyg yn y dyfodol.

"Dyna pam y byddwn ni'n parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd gennym i ddwyn y rheiny i gyfrif am eu gweithredoedd," meddai.

"Gallai llawer o'r eitemau gafodd eu casglu fod wedi cael eu cludo i ganolfan ailgylchu gymunedol neu ei gasglu ar ochr y stryd am ddim."

Tri o'r gwirfoddolwyr ar y mynyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Camodd y cyngor sir i'r adwy oherwydd "perygl sylweddol a maint y safle" oedd angen ei glirio

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig