Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan sawl cerbyd a char heddlu

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth cerddwr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng chwe cherbyd yng Nghaerfyrddin.
Roedd yr adroddiadau cyntaf a gafodd yr heddlu yn lleisio pryderon am ddiogelwch cerddwr ar yr A40 - yna daeth adroddiadau bod cerbydau wedi bod mewn gwrthdrawiad â'r unigolyn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 21:50 nos Fawrth rhwng cylchfan PC World a chylchfan Abergwili.
Yn ôl adroddiadau bu un o gerbydau'r heddlu mewn gwrthdrawiad â'r cerddwr hefyd ar ôl cyrraedd.
Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r mater a does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r achos hefyd wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC sef Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Mae'n debygol y bydd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod gyda'r heddlu'n gofyn i deithwyr geisio osgoi'r ardal.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.