Cyfyngiadau ffliw adar yn dod i ben yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfyngiadau ffliw adar sydd wedi bod mewn grym ledled Cymru ers mis Ionawr 2025 wedi dod i ben.
Daw'r newid wedi i'r risg o drosglwyddo'r feirws o adar gwyllt i adar caeth ostwng o lefel "ganolig" i "isel".
Mae'r penderfyniad yn cyd-fynd â chodi'r cyfyngiadau cyfatebol yn Lloegr a'r Alban.
Ond mae arbenigwyr yn rhybuddio nad yw "risg isel yn golygu dim risg" ac yn annog ceidwaid adar i barhau'n wyliadwrus.
Cyflwyno mesurau wrth i Gymru 'wynebu risg uchel o ffliw adar'
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
Cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru gyfan
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2025
Ffliw adar: Ffermwyr ieir yn poeni am eu bywoliaeth
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2021
Cafodd Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan (AIPZ) ei gyflwyno ym mis Ionawr 2025 er mwyn helpu i atal lledaeniad ffliw adar ymhlith dofednod ac adar caeth eraill.
Roedd mesurau bioddiogelwch gorfodol yn eu lle ledled Cymru, gyda'r gofyniad i gadw adar dan do eisoes wedi dod i ben ym mis Ebrill.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, ei fod yn "falch" bod y risg wedi gostwng digon i ganiatáu diddymu'r parth.
Ychwanegodd: "Mae hyn yn newyddion da i'n ceidwaid adar", ond bod "ffliw adar yn parhau i fod yn glefyd difrifol, ac rydym yn gwybod y gall amodau newid."
"Rwy'n annog pob ceidwad adar, waeth beth yw maint yr haid neu ei math, i barhau i ddiogelu eu hadar - rhag ffliw adar a chlefydau eraill.
"Arferion hylendid da yw eich llinell amddiffyn gyntaf a mwyaf effeithiol.
"Mae gwyliadwriaeth ac adrodd prydlon am unrhyw amheuaeth o glefyd hefyd yn parhau i fod yn hollol hanfodol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn annog ceidwaid adar i barhau i ddilyn mesurau bioddiogelwch da, gan gynnwys cadw mannau'n lân, lleihau cyswllt ag adar gwyllt a rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw arwyddion o glefyd.
Ychwanegodd y bydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.