Dyn wedi goroesi ar y môr ger Porthmadog ar ôl 4 awr yn arnofio ar focs

Cafodd y person ei ganfod ar Draeth Harlech yn y diwedd, cyn cael ei gludo i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dyn oroesi ar y môr ger Porthmadog am tua phedair awr yn arnofio ar focs oeri (coolbox) ddydd Iau.
Dywedodd y gangen Gwylwyr y Glannau yng Nghricieth iddyn nhw dderbyn galwad am 15:00 yn codi pryder am gwch oedd yn hwyr yn dychwelyd ar ôl gadael Porthmadog.
Daethon nhw o hyd i'r cwch wyneb i waered ar domen dywod ger y dref, gan godi pryderon am ddiogelwch y person oedd ar goll.
Roedd yr ymgyrch i ddarganfod y person yn cynnwys hofrennydd, gwahanol dimau achub Gwylwyr y Glannau a chwch lleol.
Cafodd yr unigolyn ei ganfod yn y diwedd ar Draeth Harlech, yn dioddef yn ddifrifol o effeithiau o fod mewn dŵr oer, felly cafodd ei gludo i'r ysbyty.
Y gred yw ei fod wedi bod yn y dŵr am dros bedair awr ar ôl i'r llanw trai ei gludo allan o'r aber, gan lwyddo i arnofio drwy ddal gafael yn y bocs oeri.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.