Llyfr gan un o'r Beatles o siop elusen yn Aberystwyth yn gwerthu am £1,000

Roedd y llyfr wedi bod yn eistedd ar silff yn y siop am fisoedd cyn i'r rheolwr ddarganfod y llofnod
- Cyhoeddwyd
Mae llyfr gan Syr Paul McCartney a gafodd ei roi i siop elusen yn Aberystwyth wedi gwerthu am bron i £1,000.
Cafodd copi o 'Paul McCartney In His Own Words' ei roi fel rhan o gasgliad o memrobilia'r 1970au i siop Oxfam Aberystwyth ychydig o fisoedd yn ôl.
Roedd y llyfr wedi bod yn eistedd ar y silff am gyfnod cyn i reolwr y siop, Joan Randle, sylweddoli ar lofnod tu mewn i'r clawr wrth iddi aildrefnu'r stoc.
Mae'r llyfr bellach wedi cael ei werthu mewn ocsiwn yn Bonham's, gan godi £950 i elusen Oxfam.

Mae'r llofnod tu mewn i'r clawr blaen yn dweud "All the best! to ye! Paul McCartney"
Dywedodd Ms Randle ei bod wedi dod ar draws y llyfr wrth symud pethau o gwmpas yn y siop ar brynhawn distaw.
"Roedd y llyfr yn un o'r pethau olaf i fi edrych arno," meddai.
"Pan welais i lofnod Paul McCartney yn y llyfr, doeddwn i methu credu'r peth... Roedd yn un o'r adegau gorau yn fy 10 mlynedd yn gweithio yn y siop."
Mae'r llofnod tu mewn i'r clawr blaen yn dweud "All the best! to ye! Paul McCartney"
Nid yw Oxfam wedi dod o hyd i roddwr y llyfr eto.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen fod y llyfr yn "enghraifft wych o sut y gall un rhodd wneud gwahaniaeth gwirioneddol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.