Cannoedd o gefnogwyr Bonnie Tyler yn gwylio ei thaith olaf yn Y Mwmbwls

arch
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o gefnogwyr Bonnie Tyler yn gwylio ei thaith olaf yn Y Mwmbwls ddydd Sadwrn

GanAimee Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o gefnogwyr y gantores Bonnie Tyler wedi bod yn ffarwelio â hi wrth i'w harch gael ei chludo yn y Mwmbwls ddydd Sadwrn.

Fe deithiodd yr arch drwy'r pentref ac yna i lawr Heol Newton i'w chartref ar Heol y Mwmbwls.

Yn y Mwmbwls, Gaynor oedd hi. Gaynor oedd yn byw i fyny'r ffordd.

Gaynor y byddech chi'n gweld yn siopa, neu'n cael diod a phryd o fwyd gyda ffrindiau.

Roedd hi'n byw yn y Mwmbwls ochr yn ochr â'i chartref ym Mhortiwgal a'r atgofion hynny am gyfarfodydd cyffredin yw'r rhai sy'n golygu fwyaf i bobl leol.

cefnogwyr

Wrth i'r orymdaith ddechrau roedd y gân Total Eclipse of the Heart yn atseinio ar y stryd a'r dorf yn cymeradwyo.

Un a oedd yn bresennol oedd Maggie sy'n gweithio yn Ystumllwynarth.

Dywedodd bod cerddoriaeth Bonnie Tyler yn bwysig i'r ardal a'i bod Bonnie "bob amser yn hyfryd os oeddech chi'n dod ar ei thraws hi".

Ychwanegodd Andrea sydd o Fryn-coch ger Sgiwen: "Fe dyfon ni lan gyda'i cherddoriaeth ac mae'n bwysig i ni ddod yma i dalu teyrnged iddi."

Y blodau y tu allan i gartref Bonnie Tyler ddydd Sadwrn
Disgrifiad o’r llun,

Y blodau y tu allan i gartref Bonnie Tyler ddydd Sadwrn

Bydd gwasanaeth angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Abertawe ddydd Llun, ar gyfer teulu a gwesteion, cyn i'r orymdaith fynd ymlaen i'w thref enedigol yn Sgiwen.

Ond i bobl y Mwmbwls, mae'r ffarwel eisoes wedi dechrau.

Menyw mewn ffrog gwyn a coch, yn sefyll o flaen llwyau caru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Price, perchennog The Lovespoon Gallery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth siopa yn y pentref

Mae Jane Price, perchennog The Lovespoon Gallery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth siopa yn y pentref.

"Roedd hi wastad yn braf cael Bonnie Tyler yn rhan o'r pentref," meddai.

"Roeddech chi'n gweld ei thŷ hardd wrth ddod i mewn i'r Mwmbwls, a bydd colled fawr ar ei hôl.

"Roedd hi'n gwneud chi'n falch, gwybod bod Bonnie yn rhan o'r pentref ac yn rhan o Abertawe.

"Mae mor drist nad yw hi gyda ni bellach, ond bydd ei chof yn sicr o fyw ymlaen yma."

'Gaynor oedden ni'n ei galw hi'

I staff Cash Hardware, roedd Bonnie Tyler yn wyneb cyfarwydd yno hefyd.

Mae Alfie Williams, goruchwyliwr yn y siop, yn cofio ei hymweliadau fel rhywbeth a fyddai wastad yn codi gwên.

"Roedd hi wastad yn syrpreis pleserus pan fyddai hi'n dod i mewn," meddai.

"Roedd hi wastad yn hapus, yn fywiog ac yn sgwrsio gyda phawb.

"O'n i'n starstruck. Ambell waith bydden ni'n siarad am bwy oedd y bobl enwocaf roedden ni wedi'u gweld yn y siop, a hi fyddai ar dop y rhestr bob tro.

"Pan fyddech chi'n gyrru heibio ei thŷ ar Heol y Mwmbwls, byddech chi'n dweud, 'O, edrychwch, tŷ Gaynor'."

Llun o ddau dyn yn gwisgo yr un gwisg glas tywyll yn sefyll o flaen planhigion.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Francis (chwith) ac Alfie Williams (dde) yn cofio Bonnie Tyler yn ymweld â nhw yn aml fel cwsmer

Dywedodd Chris Francis, perchennog y siop, mai dyna'r ffordd yr oedd pobl leol yn ei hadnabod.

"Gaynor oedden ni'n ei galw hi, oherwydd o'n i'n 'nabod hi'n eitha' da," meddai.

"Roedd hi wastad yn hynod o bleserus, fel cwsmer arferol yn mynd o gwmpas ei busnes.

"Bydden ni'n mynd â phethau i'w thŷ os oedd angen. Roedd hi'n berson neis iawn."

Dyna beth sy'n gwneud perthynas Bonnie Tyler â'r Mwmbwls mor arbennig.

Gallai fod wedi byw y tu ôl i gatiau a diogelwch, ymhell i ffwrdd o fywyd y pentref.

Ond mae pobl yn ei chofio fel rhywun oedd yn rhan o fywyd ddydd i ddydd y pentref.

Llun menyw mewn ffrog glas a gwyn a chardigan gwyrdd a phinc yn sefyll o flaen gemwaith arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heidi Walton yn cofio gweld Bonnie yn gymdeithasol flynyddoedd yn ôl

Mae Heidi Walton, perchennog Fire and Soul Jewellery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn gymdeithasol flynyddoedd yn ôl.

"Amser maith yn ôl, es i allan gyda'r mamau eraill o'r ysgol, ac roedden ni'n arfer mynd i PA's Wine Bar," meddai.

"Byddai hi yna yn eitha' aml yn cael cwpl o ddiodydd.

"Ond roedd hi'n rhan o'r criw. Roedd hi'n gymeriad.

"Byddech chi'n ei chlywed cyn ei gweld, ac roedd pawb yma yn hoff iawn ohoni."

Bonnie Tyler ar raglen Saturday Superstore yn 1983
Disgrifiad o’r llun,

Bonnie Tyler ar raglen Saturday Superstore yn 1983 - y flwyddyn iddi ryddhau Total Eclipse of the Heart

Mae'r un disgrifiad yn codi dro ar ôl tro: Bonnie fel cymeriad, yn hytrach na Bonnie y seren.

Mae Paul Whittaker, sy'n rhedeg cwmni marchnata a digwyddiadau ac yn trefnu Mumbles Retro Week bob blwyddyn, yn dweud mai dyna pam roedd hi'n berson mor boblogaidd.

"Fi'n meddwl mai un o'r rhesymau roedd hi'n dod i'r pentref yn rheolaidd oedd oherwydd na fyddai pobl yn ei thrin fel seren," meddai.

"Gaynor oedd hi, y ferch oedd yn byw i fyny'r ffordd.

"Ac rwy'n meddwl mai dyna oedd yn ei gwneud hi'n mor annwyl i bobl. Roedd hi'n berson halen y ddaear."

'Y person mwyaf caredig'

Mae marwolaeth Bonnie Tyler wedi arwain at lif o atgofion yn y pentref, gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi trefnu llyfr o gydymdeimladau yng Nghanolfan Ostreme.

Mae'r llyfr bron yn llawn, gyda phobl yn rhannu straeon am gyfarfod â hi mewn siopau lleol.

Mae un neges yn adrodd hanes menyw ifanc o Ffrainc a oedd yn hiraethu am ei chartref.

Yn ystod ymweliad â'r pentref, fe wnaeth hi gyfarfod â Bonnie Tyler, a oedd, yn ôl y neges, yn "hynod o garedig" a lwyddodd i godi ei chalon.

Llun o Bonnie Tyler mewn canolfan tu ôl i lyfr atgofion.
Disgrifiad o’r llun,

Mae marwolaeth Bonnie Tyler wedi arwain at lif o atgofion yn y pentref, gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi trefnu llyfr o gydymdeimladau yng Nghanolfan Ostreme

I nifer, mae'r cyfarfodydd byr hynny wedi troi'n atgofion oes.

Mae Julie Read, ffrind agos i'r teulu sy'n cyfeirio ati fel Gaynor, yn cofio ochr fwy personol i'r gantores.

Bu hi a'i gŵr hyd yn oed yn aros yn ei chartref ym Mhortiwgal ar gyfer eu mis mêl.

"Hi oedd y person mwyaf caredig y byddwch chi byth yn ei gyfarfod," meddai Ms Read.

"Roedden ni'n arfer treulio Dydd Nadolig yn ei thŷ, ac un o fy hoff luniau yw fy merch yn chwarae'r piano a Gaynor yn sefyll wrth ei hochr.

"Pan oedd fy merch yn bedair oed, canodd hi yn ei thŷ adeg y Nadolig hefyd, ac roedd Gaynor yn dal y meicroffon iddi.

"Mae'n gyfnod trist iawn."

Llun o merch yn chwarae piano a Bonnie Tyler yn sefyll wrth ei hochr. Ffynhonnell y llun, Julie Read
Disgrifiad o’r llun,

Un o hoff luniau Julie Read yw ei merch yn chwarae'r piano, a Bonnie Tyler yn sefyll wrth ei hochr

Dydd Sul, bydd y Mwmbwls yn dathlu bywyd Bonnie Tyler gyda digwyddiad arbennig sydd wedi'i ychwanegu at Retro Week eleni.

Cafodd digwyddiad teyrnged iddi ei ganslo yn wreiddiol yn dilyn ei marwolaeth, ond newidiodd hynny ar ôl i'r trefnydd derbyn negeseuon gan bobl yn gofyn a fyddai cyfle i gofio amdani.

Bydd cantorion yn perfformio rhai o'i chaneuon, ynghyd â chyfle i glywed cyfweliadau ag aelodau o'i thîm a straeon am ei bywyd a'i gyrfa.

"Bydd yn ddathliad braf o'i bywyd," meddai Paul Whittaker.

"O'n i'n meddwl y byddai llawer o bobl o'r tu allan i'r ardal yn dod i'r pentref dros y penwythnos i dalu eu teyrngedau.

"Felly cysylltais â'r teulu a nes i sôn sut y gallen ni ychwanegu diwrnod arall i Retro Week, a byddai'r cyfan am ddim.

"Roedden nhw'n fwy na hapus."

Bonnie Tyler yn 2013Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfres o ddigwyddiadau yn y Mwmbwls cyn i angladd Bonnie Tyler gael ei gynnal ddydd Llun

Mae digwyddiadau'r penwythnos hefyd yn rhoi cyfle i gefnogwyr gwrdd a rhannu eu hatgofion eu hunain.

I'r gantores gyda'r llais enwog - llais aeth â hi o amgylch y byd mae'r ffarwel yn y pentref roedd hi'n ei alw'n gartref yn hynod emosiynol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.