'Trachwant pur': Carcharu Cymro am fusnes ffrydio teledu anghyfreithlon

Teledu a 'firestick'Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr post wedi cael ei garcharu am werthu apiau ac offer i gwsmeriaid, er mwyn iddyn nhw allu ffrydio chwaraeon am ffracsiwn o gost tanysgrifiadau cyfreithlon.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Michael David Barrow, o Aberdaugleddau yn Sir Benfro, yn rhedeg y busnes gan ddefnyddio offer fel 'Fire Sticks' o Amazon oedd wedi cael eu hacio.

Gwnaeth Barrow elw o dros £200,000, tra bod y golled bosibl i ddarlledwyr fel Sky Sports, TNT Sports a BT Sports yn filiynau o bunnoedd.

Wrth garcharu'r tad i ddau am 38 mis, dywedodd y Barnwr fod Barrow wedi gweithredu "twyll masnachol ar raddfa eang" wedi'i ysgogi gan "drachwant pur", er gwaethaf gwybod y byddai dedfryd yn debygol pe bai'n cael ei ddal.

Er i'r heddlu fynd draw at ei dŷ, parhau i redeg y busnes a wnaeth Barrow.

Cafodd hysbysiad ei roi iddo oedd yn ei rybuddio i stopio ac fe rannodd swyddogion fanylion ag ef am achosion llys yn y gorffennol, pryd y cafodd diffynyddion ddedfrydau o garchar.

Cafodd ei gyfrif Facebook ei atal hefyd, am y rheswm ei fod yn torri rheolau eiddo deallusol.

Pan aeth swyddogion yn ôl i'w eiddo, roedd ganddo far wedi'i addurno mewn thema pêl-droed yng nghefn ei eiddo - ble roedd cwsmeriaid yn gallu cael blasa r y ffrydio anghyfreithlon eu hunain.

Yn erlyn ar ran Uwch Gynghrair Lloegr, dywedodd Ari Alibhai wrth y llys fod y diffynnydd wedi darparu apiau i gwsmeriaid ac wedi addasu Fire Sticks Amazon am fwy na phedair blynedd.

Mae Fire Stick yn ddyfais sy'n cysylltu â'r teledu ac yn rhoi opsiynau ichi wylio rhaglenni o wasanaethau cyfreithlon, gan gynnwys BBC iPlayer a Netflix.

Roedd hyn yn galluogi i'w gwsmeriaid gael mynediad anghyfreithlon at gynnwys gan ddarlledwyr fel Sky Sports, TNT Sports a BT Sports ynghyd â mwy, fel digwyddiadau byw gan gynnwys gornestau bocsio mawr a dewis o fwy na 18,000 o ffilmiau.

TeleduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Alibhai fod y golled bosibl i Sky Sport, TNT Sports a BT Sports yn unig yn £6m

Dywedodd Mr Alibhai fod y diffynnydd ei hun wedi dweud bod ganddo fwy na 1,800 o gwsmeriaid a'i fod yn darparu pecyn "tanysgrifiad" am tua £120 y flwyddyn, sef ffracsiwn o'r hyn yr oedd darlledwyr cyfreithlon yn ei godi.

Clywodd y llys mai dim ond ar argymhelliad gan gwsmeriaid presennol yr oedd Barrow yn derbyn cwsmeriaid newydd - gan fynnu bod pawb yn defnyddio enwau llawn er mwyn iddo sicrhau nad oedd swyddogion Sky yn ceisio ymuno meddai.

Roedd taliadau yn cael eu gwneud trwy PayPal neu i gyfrif banc y diffynnydd ac roedd yn hybu'r cwsmeriaid i geisio cuddio natur y taliadau trwy roi cyfeirnod crysau pêl-droed retro.

Clywodd y llys fod gan Barrow hefyd "radd sylweddol o wybodaeth dechnegol" a'i fod yn gallu cynghori cwsmeriaid ar sut y gallen nhw gymryd camau i fynd o amgylch y technegau sy'n cael eu defnyddio gan ddarlledwyr i weithio yn erbyn ffrydio anghyfreithlon.

Dywedodd yr erlynydd fod gweithgareddau Barrow wedi dod i sylw Heddlu'r De yn 2021 yn dilyn adroddiadau i elusen CrimeStoppers.

Fe wnaeth swyddogion ymweld â'i gartref yn Sir Benfro i roi gwybod iddo bod yr awdurdodau'n ymwybodol o'r hyn yr oedd yn ei wneud.

'Trachwant pur'

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi parhau â'i weithredu ac wedi cymryd camau i osgoi cael ei ddal eto, gan gynnwys mynnu bod cwsmeriaid yn cyfathrebu ag ef trwy Telegram - ap negeseuon sydd wedi'i amgryptio.

Dywedodd yr erlynydd fod ymchwiliad ariannol wedi dangos bod y diffynnydd wedi derbyn mwy na £170,000 mewn taliadau PayPal ac roedd amheuaeth bod £167,000 ohono o'i weithredu ffrydio anghyfreithlon - a £45,000 arall mewn taliadau ffrydio twyllodrus i gyfrif banc.

Dywedodd Mr Alibhai ei bod hi'n anodd mesur y golled i'r darlledwyr ond bod y golled bosibl i Sky Sport, TNT Sports a BT Sports yn unig yn £6m - heb ystyried y cwmnïau eraill a gafodd eu heffeithio, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u lleoli dramor.

Roedd Barrow eisoes wedi pledio'n euog i dri throsedd pan ymddangosodd yn y doc i gael ei ddedfrydu. Nid oes ganddo unrhyw euogfarnau blaenorol.

Dywedodd Megan Williams, ar ran Barrow, ei bod hi'n amlwg o gynnwys yr adroddiad cyn y dedfrydu ei fod wedi mynegi edifeirwch gwirioneddol am yr hyn a wnaeth.

Ychwanegodd ei fod wedi dechrau "dymuniad camarweiniol" yn 2019 i helpu ffrindiau a theulu, ond ei fod wedi troi'n "belen eira" - wnaeth fynd yn fwy.

Fe wnaeth y bargyfreithiwr hefyd ddweud fod y tad i ddau wedi bod yn ceisio cael cymorth gyda'i broblemau iechyd meddwl ers ei arestio.

Nododd y Barnwr Paul Thomas, er bod Barrow yn ymwneud â'r gweithredu anghyfreithlon, fod ganddo "incwm cyson" yn gweithio i'r gwasanaeth post, a'i bod hi'n amlwg mai "trachwant pur" oedd cymhelliant y diffynnydd.

Cafodd Barrow ei ddedfrydu i 38 mis yn y carchar a bydd yn treulio 40% o'r ddedfryd yn y ddalfa cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig