O'r Mart i'r Maes: Ymgyrch unigryw ffermwyr at 'achos mor deilwng'

Pwysleisiodd Meirion Pugh bod croeso i unrhyw un ymuno â nhw ar y daith
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Sioe Fawr agosáu eto eleni, mae criw o ffermwyr yn cynllunio ymgyrch unigryw i godi arian ar gyfer ymchwil canser.
Y syniad tu ôl i ymgyrch 'O'r Mart i'r Maes' ydy taith gerdded hir a fydd yn gorffen ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar ddydd Sul 19 Gorffennaf.
Bydd y daith honno o dros 130 milltir yn dechrau ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf.
Ond mae llwyth o ddigwyddiadau eraill wedi'u trefnu cyn hynny hefyd, gyda chyngerdd ym Marchnad Rhuthun ar 10 Gorffennaf a theithiau cerdded byrrach gan wahanol farchnadoedd.
Syniad Meirion Pugh o Fotwnnog oedd yr ymgyrch, a dywedodd ar y Post Prynhawn ei fod "at achos mor deilwng".

Bydd y brif daith yn gorffen ar faes y Sioe Frenhinol ar y dydd Sul cyn iddi ddechrau eleni
Dywedodd Meirion ei fod wedi cael yr ysbrydoliaeth o weld ymgyrchoedd eraill tebyg yn ddiweddar.
"Ges i'r ysbrydoliaeth o weld y Sara Cox 'na yn codi pres i Blant Mewn Angen ac wedi codi cymaint.
"Meddwl 'nes i, 'be' faswn i'n gallu ei 'neud?' A gweld bod Ymchwil Canser Cymru - fod 'na gymaint o sôn amdana fo 'wan.
"O'dd 'na She Ultra yn dod trwy'r iard 'ma dipyn bach yn ôl ac mi fuodd dynas yn siarad yn fanno ac yn deud y bydd 'na un mewn dau o'na ni'n diodda' fo'n diwadd."
'Geith rywun ymuno hefo ni'
Esboniodd Meirion mai'r cynllun ydy cwblhau y daith dros bum diwrnod, ac mai criw ohonyn nhw sy'n bwriadu gwneud y daith gyfan.
Ond pwysleisiodd bod croeso i bawb ac unrhyw un ar y daith ac yn y digwyddiadau.
"Geith rywun ymuno hefo ni i 'neud o 'de, dydi o ddim i amaethyddiaeth yn unig."
Ychwanegodd fod modd i unrhyw un gerdded rhan bach o'r daith, neu mae croeso i wneud yr her gyfan hefyd.
"Mae o at achos mor deilwng ac mae 'na rywun yn r'wla yn gwybod am rywun reit agos sydd hefo'r clefyd."
Mae'r ymgyrch wedi cael ymateb da, meddai Meirion ac wedi sicrhau nawdd gan wahanol gwmnïau hefyd.
Ble a phryd fydd y daith?
Diwrnod un - 15 Gorffennaf
Cychwyn am 06:00 o Ganolfan Arwerthu Gaerwen at Ganolfan Arwerthu Bryncir
Tua 27 milltir
Diwrnod dau - 16 Gorffennaf
06:00 o Ganolfan Arwerthu Bryncir at Ganolfan Arwerthu Dolgellau
Tua 39 milltir
Diwrnod tri - 17 Gorffennaf
06:00 o Ganolfan Arwerthu Dolgellau at Ganol Tref Llanidloes
Tua 39 milltir
Diwrnod pedwar - 18 Gorffennaf
10:00 o Ganol Tref Llanidloes at Ganolfan Arwerthu Rhaeadr Gwy
Tua 14 milltir
Diwrnod pump - 19 Gorffennaf
10:00 o Ganolfan Arwerthu Rhaeadr Gwy gan orffen yn y Sioe Frenhinol
Tua 14 milltir
Mae criw O'r Mart i'r Maes wedi nodi hefyd bod diwrnodau dau a thri yn cynnwys cryn dipyn o ddringo ac uchder, ac i ystyried hynny cyn dod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.