Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Charlotte ChurchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Charlotte Church The Awen Project gyda'i gŵr, Jonathan Powell, yn 2019, gan obeithio "trawsnewid addysg" i blant

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol awyr agored a gafodd ei sefydlu gan y gantores Charlotte Church yn wynebu'r posibilrwydd o orfod cau oherwydd pryderon amgylcheddol.

Fe wnaeth The Awen Project agor yn 2024, heb ganiatâd cynllunio, mewn coedwig ar hen fferm foch yng Ngwenfô, Bro Morgannwg.

Cafodd cais ôl-weithredol yn Hydref 2025 am ganiatâd cynllunio gan y gantores ei wrthod.

Cododd y cyngor bryderon ynghylch y sŵn, yr effaith ar drigolion, a'r peryglon i gerddwyr oherwydd diffyg lleoedd parcio.

Dywedodd hefyd nad oedd y prosiect wedi dangos sut y byddai'n "gwarchod ac yn gwella seilwaith gwyrdd".

Mae Ms Church wedi gwrthod gwneud sylw, ond mae wedi cyflwyno apêl i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) Llywodraeth Cymru.

Charlotte ChurchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cais ôl-weithredol am ganiatâd cynllunio gan y gantores ei wrthod

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant "lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hannog i fod yn nhw eu hunain ac i ddilyn eu hangerdd fel cyfranogwyr gweithredol mewn cymuned ddemocrataidd".

Mae mynediad i'r ysgol am ddim, ac mae'r sefydliad yn derbyn rhoddion.

Roedd wedi'i leoli'n wreiddiol yng Nghwm George a Choed Casehill, ger Dinas Powys, gyda chaniatâd gan Goed Cadw.

Ond yn 2023 fe wnaeth yr elusen ddod â'r cytundeb i ben wedi "toriadau niferus" o'r caniatâd a roddwyd, a oedd yn "codi pryderon iechyd a diogelwch" i "ymwelwyr a bywyd gwyllt".

Mewn ymateb, cyhoeddodd y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi gwneud eu "gorau glas i achub" y bartneriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg fod y cais wedi'i wrthod oherwydd "pryderon am gynaliadwyedd" y safle a'r "effaith bosib ar gymdogion".

Roedd hefyd "diffyg tystiolaeth i ateb pryderon am yr effaith bosib ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol", meddai.

Cadarnhaodd PCAC eu bod wedi derbyn yr apêl, ond dywedodd nad oedd dyddiad wedi'i bennu ar gyfer y gwrandawiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig