Cyhuddo Cyngor Caerdydd o 'ddifaterwch' dros bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr dros bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cyhuddo'r cyngor o "ddifaterwch" wrth fynd ati i sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas.
Maen nhw'n galw ar y cyngor i brynu darn o dir ar Sgwâr Callaghan ar gyfer codi ysgol newydd.
Maen nhw'n dweud y byddai'r tir, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn ddelfrydol ar gyfer adeiladu pedwaredd ysgol Gymraeg i wasanaethu ardal Trebiwt a Grangetown ond mae 'na bryder bod y llywodraeth yn ystyried gwerthu'r tir.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mater i'r awdurdod lleol yw cynllunio addysg yn lleol a dydyn nhw "ddim wedi gwneud cynnig ffurfiol i swyddogion ynghylch y tir" eto.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod "wedi dechrau datblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn trafod gyda rhieni, dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach wrth wneud hynny".

"Y pryder yw bydd Cyngor Caerdydd yn gohirio'r penderfyniad os nad yw'r tir ar gael," meddai Carl Morris
Dywedodd Carl Morris, un o drefnwyr yr ymgyrch, eu bod yn "cyfeirio at ddifaterwch y cyngor yn benodol achos dy'n ni ddim wedi gweld y gweithredu sydd ei angen er mwyn sicrhau bod cyfartaledd o ran mynediad at addysg Gymraeg yn lleol yn ardaloedd de Caerdydd".
"Ry' ni'n pryderu achos mae 'na gyfle clir i weithredu fan hyn. Mae 'na safle sy'n edrych yn addawol iawn ar yr wyneb," meddai.
"Mae 'na lot o rym gyda Chyngor Caerdydd i weithredu a chael gafael ar dir... ond y pryder yw y bydd Cyngor Caerdydd yn gohirio'r penderfyniad os nad yw'r tir ar gael."

Dywedodd Huw Thomas ei fod yn "ddyhead yn y Cyngor" i sicrhau bod yna "fynediad rhwydd ledled y ddinas i addysg Gymraeg"
Ym mis Mehefin fe ddywedodd cyn-arweinydd y cyngor, Huw Thomas, i'r llywodraeth flaenorol ymateb yn gadarnhaol iddyn nhw ddarparu'r tir ar Sgwâr Callaghan fel safle posibl ar gyfer ysgol newydd.
Ers hynny mae e wedi dweud bod yna "waith gan y cyngor i'w wneud i gyrraedd y pwynt i ofyn i Lywodraeth Cymru (am y tir) ond yn y cyfamser os gaiff y tir yma ei werthu, fy nghonsern i yw bod yr ateb yn mynd i gael ei golli am byth".
Dywedodd hefyd ei fod yn "ddyhead yn y Cyngor" i sicrhau bod yna "fynediad rhwydd ledled y ddinas i addysg Gymraeg".
Galwodd felly ar y Llywodraeth i "dynnu'r safle oddi ar y farchnad, safle sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, fel bod yr opsiwn yna ar gyfer ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd".

Mae'r ymgyrchwyr yn galw ar y cyngor i brynu darn o dir ar Sgwâr Callaghan ar gyfer codi ysgol newydd
Yn y Senedd ddydd Mercher fe ofynnodd un o'i gyd-aelodau dros Gaerdydd Penarth, Anthony Slaughter, beth oedd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau fod gan bobl ifanc fynediad cyfartal at addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Doedd dim ymrwymiad penodol i'r ysgol gan y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg Anna Brychan, ond dywedodd bod datblygu addysg Gymraeg ym mhob awdurdod yng Nghymru yn "ganolog i weledigaeth y llywodraeth hon i'r Gymraeg".
Yn ôl Anthony Slaughter, sy'n aelod o'r Blaid Werdd, bod plant yn Nhrebiwt yn gorfod dal bws am 07:30 y bore er mwyn cyrraedd ysgol Glantaf.
Dyw teithio o un ochr y ddinas i'r llall "ddim yn gynaliadwy," meddai. "Mae'n ddrud ac yn anodd i rieni," ac yn "achosi pryder" i bobl ifanc sy'n dechrau ysgol.
I deuluoedd fel hyn dyw'r penderfyniad i barhau mewn addysg Gymraeg "ddim yn syml," meddai.
Dywedodd Anna Brychan y byddai'r Gweinidog Cyllid yn ysgrifennu ato ar y pwynt penodol yna.
Ond mynnodd bod "datblygu addysg Gymraeg ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sy'n gallu cael mynediad rhwydd at addysg cyfrwng Cymraeg, bod dysgwyr yn ein system ni, pa bynnag ysgol maen nhw wedi mynd iddo yn gadael yr ysgol yn 16 oed yn siaradwyr hyderus o'r Gymraeg, yn ganolog i weledigaeth y llywodraeth hon".
Dywedodd yr aelod Plaid Cymru, Keira Marshall fod teithio mor bell yn "troi rhieni a gwarcheidwaid i ffwrdd o yrru eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg".

Dywedodd Carl Morris fod y safle ar Sgwâr Callaghan yn "addawol iawn"
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw'n ymfalchïo yn y gwaith maen nhw wedi ei wneud i ddatblygu Addysg Gymraeg yn y brifddinas gan nodi fod nifer y plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu 57% ers 2012.
Maen nhw'n dweud bod rhaid cynllunio unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn ofalus er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy.
"Mae cyllid ar gyfer ysgolion yn seiliedig ar niferoedd disgyblion, felly mae'n hanfodol bod twf yn parhau mewn ffordd strategol sy'n cefnogi ysgolion newydd a phresennol dros y tymor hir," meddai'r datganiad.
"Mae'r Cyngor wedi dechrau datblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ac mae'n trafod gyda rhieni, dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach wrth wneud hynny."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mater i'r awdurdod lleol yw cynllunio addysg yn lleol.
"Dyw'r awdurdod lleol ddim wedi gwneud cynnig ffurfiol i swyddogion ynghylch y tir," meddai llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
