Cyhoeddi enwau prif swyddogion Eisteddfod 2028 yng Nghaerdydd

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Chaerdydd eto yn 2028 ac yn cael ei chynnal o 5-12 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r swyddogion a fydd yn llywio'r gwaith ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2028 wedi cael eu cyhoeddi gan y trefnwyr.
Mae pwyllgorau testun eisoes yn cael eu creu, a bydd cyfarfod cyntaf y gronfa leol nos Fercher am 18:30 yn Ysgol Glantaf, Caerdydd.
John Hayes yw cadeirydd pwyllgor gwaith, gydag Aled Wyn Phillips yn is-gadeirydd strategol, ac Angharad Thomas fydd yn arwain y gwaith o godi arian yn lleol.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, ei bod yn "edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda John a'r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod 2028".

O'r chwith, John Hayes, Angharad Thomas ac Aled Wyn Phillips
Yn bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr tan iddo ymddeol, mae John Hayes yn weithgar yn ei gymuned yn ardal Yr Eglwys Newydd.
Mae hefyd yn un o oruchwylwyr cynllun cefnogi'r digartref, Y Ganolfan Glyd, is-gadeirydd pwyllgor Y Dinesydd ac mae'n gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd.
Mae gan Angharad Thomas brofiad ym maes digwyddiadau yng Nghaerdydd, ynghyd â rhwydwaith eang o gysylltiadau ar draws y ddinas.
Ei bwriad yw helpu i ysgogi ac annog digwyddiadau codi arian, gan sicrhau eu bod hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod, y Gymraeg a'r celfyddydau yng Nghaerdydd.
Mae gan Aled Wyn Phillips brofiad o ddatblygu strategaethau a phartneriaethau i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant ar draws sefydliadau amrywiol, bu hefyd yn gweithio yn y cyfryngau yn y maes hyrwyddo a chyflwyno am flynyddoedd.
Mae Mr Phillips wedi cyfrannu'n helaeth at waith cymunedol yn ardal Treganna hefyd.
Pwy ydy'r swyddogion eraill?

O'r chwith, Awen Penri, Ianto Phillips a Delyth Medi
Delyth Medi ydy is-gadeirydd cystadlu Eisteddfod 2028.
Mae ganddi brofiad helaeth o arwain a chystadlu ar lwyfannau'r Eisteddfod mewn amrywiaeth eang o feysydd, a phrofiad sylweddol o wasanaethu ar bwyllgorau'r Eisteddfod dros y blynyddoedd.
Ianto Llwyd Phillips ydy'r is-gadeirydd artistig. Mae ganddo brofiad ym maes cyfathrebu, marchnata a rheoli prosiectau.
Awen Penri sydd wedi'i hethol yn ysgrifennydd, fel un sydd wedi cydlynu prosiectau cymhleth, darparu cyngor strategol a sicrhau cyflawni yn erbyn amcanion.
Yn ogystal, mae ganddi brofiad eang o wirfoddoli gyda nifer o grwpiau a sefydliadau a mudiadau yn y ddinas.

Dywedodd Betsan Moses eu bod yn "awyddus i fachu ar bob cyfle i godi proffil ein hiaith a'n diwylliant yn ein prifddinas"
Dywedodd Betsan Moses mai gwych oedd "gweld dros 300 o bobl yn y cyfarfod cyhoeddus yn ystod mis Medi".
"Mae'r gwaith o greu'r rhestr testunau wedi mynd yn arbennig o dda hyd yn hyn, gyda chefnogaeth eang gan bobl o bob oed."
Ychwanegodd ei fod yn "gyfnod cyffrous i ddod â'r Eisteddfod i Gaerdydd, ac rydyn ni'n awyddus i fachu ar bob cyfle i godi proffil ein hiaith a'n diwylliant yn ein prifddinas".
Mae disgwyl amryw o gyhoeddiadau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys enw swyddogol yr Eisteddfod a dyddiad Gŵyl y Cyhoeddi.
Bydd y pwyllgor gwaith hefyd yn dewis aelodau er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o'r dalgylch.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.