AS Reform wedi camarwain pobl medd dirprwy arweinydd

Laura Anne Jones oedd yr AS Ceidwadol o'r Senedd gyntaf i adael er mwyn ymuno â Reform, yn haf 2025
- Cyhoeddwyd
Roedd Aelod o'r Senedd yn camarwain pobl pan ddywedodd fod ganddo gefnogaeth mwyafrif i fod yn arweinydd Reform yng Nghymru, yn ôl dirprwy arweinydd newydd y blaid.
Dywedodd James Evans yr wythnos ddiwethaf na fyddai'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth a sbardunwyd ar ôl i Dan Thomas gael ei arestio, er iddo honni bod y rhan fwyaf o ASau y blaid eisiau iddo fod yn arweinydd.
Dywedodd Laura Anne Jones nad oedd hi'n cydnabod bod hynny'n wir ac nad oedd hi'n gwybod pam y dywedodd ef hynny.
Mewn ymateb, mynnodd Evans fod ganddo "gefnogaeth sylweddol" ond dywedodd ei bod hi'n bryd "symud ymlaen".
Cafodd Helen Jenner ei hethol yn arweinydd ddydd Llun ar ôl i Thomas ymddiswyddo yn dilyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall. Mae'n gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Yn dilyn hynny, cafodd Laura Anne Jones, yr AS dros Sir Fynwy a Thorfaen, ei hethol yn ddirprwy arweinydd, gan gymryd lle Jenner.

Mae James Evans yn AS Reform ar ôl cael ei ethol yn wreiddiol fel AS Ceidwadol
Dywedodd Jones wrth y BBC y bydd Jenner yn "arweinydd deinamig" ac yn "ddewis da y gall y grŵp cyfan gefnogi nawr."
"Mae gennym ni safiad unedig unwaith eto," meddai.
Pan holwyd hi am honiad Evans ei fod wedi cael cefnogaeth y mwyafrif, dywedodd: "Mae James yn dweud llawer o bethau.
"Dydw i ddim yn credu bod hynny'n wir bryd hynny. Dyna'r cyfan rydw i'n mynd i'w ddweud.
"Mae gan Helen gefnogaeth gref iawn yma ac mae pawb yn gallu ei chefnogi'n hawdd."
Pan holwyd hi a oedd hi'n credu ei fod wedi camarwain pobl, dywedodd: "Ydy, yn bendant. Rwy'n credu bod y canlyniad yn siarad drosto'i hun.
"Mae James yn wleidydd gwych. Ond yn yr achos hwn, dydw i ddim yn gwybod pam y dywedodd yr hyn a ddywedodd.
"Mae'r broses yn broses. Roedd yna ychydig o gamau ar ôl o'r pwynt y tynnodd ef yn ôl.
"Dydw i ddim wir yn deall pam y dywedodd hynny."
Helen Jenner yw arweinydd newydd Reform yng Nghymru
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mewn ymateb, dywedodd James Evans mewn datganiad: "Cefais gryn gefnogaeth gan gydweithwyr ac rwy'n ddiolchgar i bawb a'm hanogodd i sefyll.
"Yn dilyn trafodaethau gyda fy nheulu, penderfynais beidio â chyflwyno fy enw, felly yn y pen draw ni chafodd y niferoedd hynny eu profi mewn cystadleuaeth.
"Mae Helen bellach wedi'i hethol yn arweinydd, mae'r broses drosodd, ac mae'n bryd symud ymlaen, bwrw ati gyda'r gwaith a rhoi fy nghefnogaeth lawn iddi."
Nid yw Reform wedi cyhoeddi canlyniadau'r pleidleisiau ar gyfer yr arweinydd a'r dirprwy arweinydd.
Er bod Jenner wedi cadarnhau bod Jason O'Connell hefyd wedi ceisio dod yn arweinydd, nid yw'r blaid wedi dweud pwy a safodd yn erbyn Jones.
Pan ofynnwyd iddi am y bleidlais, dywedodd Jones nad oedd hi'n cael "dweud dim byd am y broses fewnol ac nid yw'n iawn gwneud hynny."
Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n edrych ymlaen ac mae gennym ddwy ddynes gref wrth y llyw. Rydym wrthi ar ein gorau.
"Mae wedi bod yn wythnos hynod brysur ond rydym wedi dod allan ohoni yn gryfach nag erioed."
Mae Jones ac Evans ill dau yn gyn-Aelodau Ceidwadol o'r Senedd. Jones oedd y cyntaf i ymuno â Reform yn haf 2025, tra ymunodd Evans y mis Chwefror canlynol.
Pan oedd yn dal yn Geidwadwr, roedd Evans wedi beirniadu Jones yn flaenorol am ymuno â Reform, gan ei chyhuddo o beidio â chael unrhyw egwyddorion.
Yn ddiweddarach, diystyrodd Jones y sylw, gan ddweud bod Evans yn syml yn "chwarae'r gêm".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.