Tom Rhys Harries: Y Cymro sy'n serennu fel gelyn Batman ar y sgrîn fawr

Mae Tom Rhys Harries yn chwarae'r prif gymeriad yn y ffilm newydd, Clayface
- Cyhoeddwyd
Gyda miliynau o bobl ar draws y byd yn ymddiddori mewn ffilmiau archarwyr, mae actor o Gaerdydd wedi son am y "cyfle cyffrous" i ymuno â'r bydysawd DC mewn ffilm Hollywood newydd.
Bydd Tom Rhys Harries yn serennu fel prif gymeriad ffilm Clayface, sy'n dilyn un o elynion hynaf yr archarwr, Batman.
Yn siarad â BBC Cymru dywedodd y cyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Plasmawr ei fod yn "teimlo fel cyfle gwych, a fi dal yn falch a ddiolchgar i gael y cyfle ac i greu'r cymeriad yna".
Wrth adlewyrchu ar y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cymro, sydd bellach yn byw yn Los Angeles, yn dweud ei fod yn teimlo'n ffodus o weld ymateb cadarnhaol i'w waith, gan gynnwys ei rôl yn y ffilm diweddar, Effi o Blaenau.

Mae'r ffilm yn dilyn cymeriad Matt Hagen ar ôl cael anafiadau difrifol
Mae Harries yn chwarae rhan Matt Hagen yn Clayface, cymeriad sydd yn dioddef anafiadau erchyll ar ôl ymosodiad difrifol.
Mae'n gobeithio gwrthdroi'r niwed trwy driniaeth arbrofol, ond mae'r ffilm yn dangos sgileffeithiau tywyll y driniaeth ar y cymeriad, a'i drawsnewidiad i gymeriad Clayface.
Dywedodd: "Mae Clayface wedi bod yn y byd DC ers 1940, dim ond blwyddyn ar ôl i Batman gael ei gyflwyno i'r byd yna.
"Hwn yw'r tro cyntaf i ni ddod â fe i'r sgrin fawr, felly mae hynny yn gyfle cyffrous"
Cafodd golygfeydd ar gyfer y ffilm eu saethu ar draws Prydain, gyda Tom yn gallu treulio hyd at 17 awr y dydd, chwe diwrnod yr wythnos ar leoliad.

Roedd Harries wedi treulio oriau bob dydd yn gosod prostheteg ar ei wyneb ar gyfer y ffilm
Er bod 'na lot o gyfrinachau o amgylch y ffilmiau cyn cael eu rhyddhau, rhannodd Tom y profiad o'i glyweliadau "trylwyr iawn" gyda'i deulu a'i ffrindiau.
"Wnaeth e' bara tua tri mis, a 'oedd rhaid i fi sing for my supper mewn ffordd."
Ond wrth gychwyn ar y gwaith ffilmio, Harries oedd yr un oedd yn cadw cyfrinach.
"Wnes i rwygo fo ACL [anterior cruciate ligament] wrth i mi weithio yng Nghymru, a wnes i didm dweud wrth neb ar y cynhyrchiad fy mod i wedi ei rwygo.
"Mae o yn effeithio ar dy symudiad pan ti yn rhedeg neu troi, ond mae o wedi cael ei drwsio nawr."

Bydd y ffilm mewn sinemâu ddiwedd yr wythnos
Fel rhan o'i drawsnewidiad, roedd Harries yn gorfod treulio oriau gydag arbenigwyr prostheteg a cholur.
"Yn dibynnu ar ba edrychiad oedd e', 'oedd o'n gallu cymryd dwy awr, roedd e'n gallu cymryd pedwar, pum awr i gael nhw ymlaen.
"'Oedd o ddim y peth mwyaf cyfforddus ar y blaned... ond mae o gyd yn helpu tuag at greu rhywbeth sy'n teimlo'n real a tactile o fewn y byd yna.
"Dwi'n edrych ymlaen i bobl weld eu gwaith nhw, achos mae'r gwaith prosthetics ar y ffilm yma yn wych."
'Effi o Blaenau' yn creu hanes yn swyddfa docynnau'r DU
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
Tom Rhys Harries: Yr actor ar y brig ar Netflix
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Plasmawr, mae Harries yn credu fod y celfyddydau wedi chwarae rhan fwy amlwg yn ei fywyd oherwydd ei fagwraeth yng Nghymru.
"O'n i'n cymryd rhan yn yr Eisteddfod o pan o'n i'n bump, yn adrodd o flaen 200, 300 o bobl felly doedd e' ddim yn teimlo mor rhyfedd â hynny i fynd ar ôl gyrfa yn y diwydiant yma.
"Mae hwnna yn gryfder mawr i ni fel cenedl - ein hallbwn celfyddydol.
"Mae o'n wyllt, yn ystyried maint y wlad, pa mor, dwi'n meddwl, drawiadol ydyn ni ar lwyfan y byd yn ddiwylliannol."
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i Harries, gan ddilyn o'i lwyddiant yn Effi o Blaenau, y ffilm Gymraeg sydd wedi creu hanes yn y swyddfa docynnau.
"Fi mor browd o Effi a mor falch i fod wedi gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar rhywbeth bod gymaint o bobl wedi cael ymateb really cryf i.
"Mae'n synnu fi, un o'r pethau fi'n mwynhau am fy swydd i yw bod ti'n mynd off a ti'n ffodus i allu gweithio a gwneud prosiectau gwahanol, a wedyn maen nhw'n cael bywyd ymhell ar ôl i ti ymwneud efo nhw.
"Ti ddim yn gwybod efo pwy neu yn ble fydd y gwaith yn cyrraedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.