Beddgelert yn ennill teitl 'lle gorau'r byd' mewn pleidlais ar-lein

Eglwys y Santes Fair, BeddgelertFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eglwys y Santes Fair, Beddgelert ei henwi'r lle gorau yn y byd mewn pleidlais ar y wefan Reddit

  • Cyhoeddwyd

Mae eglwys ym Meddgelert yng Ngwynedd wedi cael ei henwi'r "lle gorau yn y byd" mewn pleidlais ar-lein.

Cafodd y bleidlais ei chynnal ar wefan Reddit, lle mae pobl yn cynnal trafodaethau ar bob math o bynciau gwahanol.

Roedd y pleidleiswyr yn dechrau gyda map o'r byd, ac yn diddymu hanner y map mewn degau o rowndiau nes bod un lle penodol ar ôl.

Ar ôl 29 o rowndiau, Eglwys y Santes Fair oedd y lle olaf ar y map, ac mae nifer o bobl yn dweud eu bod yn bwriadu ymweld â'r pentref i'w weld.

Tu mewn i Eglwys y Santes FairFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

"Efallai fy mod i'n rhagfarnllyd wrth ddweud hyn, ond roedd yn bendant yn haeddu ennill," meddai'r Parchedig Kim Williams o'r eglwys.

"Rydyn ni wastad yn falch o groesawu ymwelwyr sy'n dod i fwynhau'r pentref, y dirwedd a'r eglwys."

Cafodd y bleidlais ei chynnal ar subreddit - sianel ar y wefan Reddit - 'Terrible Maps' sy'n denu dros 30,000 o ymwelwyr bob wythnos.

Cerflun o Gelert y ciFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae bedd Gelert y ci yn un o brif atyniadau'r pentref

Fe wnaeth y pleidleiswyr Reddit ganmol y pentref a'r eglwys, gydag un yn disgrifio Beddgelert fel "lle hyfryd".

Dywedodd un arall ei bod yn "eglwys brydferth", gan ychwanegu bod "dim syndod iddi ennill".

"Dwi wedi archebu gwyliau yna ar sail y bleidlais yma," meddai un arall.

Dywedodd y Parchedig Williams ei bod wedi synnu ond yn falch o glywed y canlyniad, gan ddweud bod yr eglwys wedi "gwasanaethu'r gymuned leol ers cenedlaethau".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.