Ymwelwyr iechyd Cwm Taf Morgannwg yn addo parhau â'u streic

Unite
GanOwain Evans
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dri mis ers dechrau streic, mae ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi addo parhau â'u brwydr.

Mae aelodau undeb Unite yn y bwrdd iechyd wedi bod ar streic ers mis Chwefror oherwydd anghydfod cyflog.

Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n cael eu talu ar y radd gywir a'u bod ar eu colled gymaint â £9,000 y flwyddyn.

Wrth annerch llinell biced ger swyddfa'r bwrdd iechyd fore Mawrth, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, mai ar y bwrdd iechyd mae'r bai.

Ond ychwanegodd ei bod yn gobeithio y gallai llywodraeth newydd Cymru helpu i ddatrys yr anghydfod.

"Mae gyda chi swyddogion fan hyn sy'n gwrthod yr asesiad annibynnol o swyddi'r ymwelwyr iechyd, a'r hyn sydd angen nawr yw bod y llywodraeth yn ymyrryd a gwneud yn siŵr bod y gweithwyr hyn yn cael eu trin yn iawn," meddai Ms Graham.

Sharon Graham yn 2025Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Graham (uchod yn 2025) wedi rhoi'r bai ar y bwrdd iechyd

Dywedodd Paul Mears, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: "Mae ymwelwyr iechyd yn darparu gwasanaeth hanfodol i blant a theuluoedd ar draws ein cymunedau.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr arbenigedd a'r ymrwymiad y maent yn eu dangos bob dydd."

Tra'n cydnabod bod safonau a chymwysterau proffesiynol ymwelwyr iechyd wedi esblygu dros amser, mae'r bwrdd iechyd yn mynnu nad mater iddyn nhw fel bwrdd iechyd unigol yw newid band cyflog.

"Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddeialog adeiladol, dwyffordd gyda chynrychiolwyr undebau llafur ac wedi parhau trwy gydol yr anghydfod hwn i ymgysylltu trwy ACAS i geisio datrysiad.

"Ein blaenoriaeth yw parhau i ddarparu gwasanaethau ymwelwyr iechyd diogel i'r rhai yn ein cymunedau sydd ei angen fwyaf."

Elina Watkins
Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n mynd i weld hwn tan y diwedd, so ni dal yma - yn y glaw, yn yr haul," medd Elina Watkins

Mae Elina Watkins o Bontypridd yn un o'r ymwelwyr iechyd sydd wedi bod ar streic ers ganol Chwefror.

"Dy'n ni ddim yn mynd 'nôl - ni'n sefyll yn gryf gyda'n gilydd, ni'n mynd i weld hyn trwyddo tan y diwedd," meddai.

Maen nhw'n gobeithio y bydd y llywodraeth newydd yn gallu helpu i ddatrys yr anghydfod.

"Ni'n gobeithio bydd Rhun ap Iorwerth a'i dîm yn dod at ei gilydd i helpu ni fynd 'nôl i'r gwaith i helpu teuluoedd lleol. Ni jyst eisiau mynd 'nôl i'r gwaith," meddai Ms Watkins.

"Ni ddim eisiau bod yn sefyll fan hyn - ni eisiau bod gyda'r teuluoedd yn gwneud y gwaith ry'n ni'n caru, a'r bwrdd iechyd lleol sy'n gallu gwneud i hynna ddigwydd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gweinidog iechyd wedi trafod y sefyllfa gyda chadeirydd y bwrdd iechyd.

"Mae hwn yn anghydfod lleol rhwng y bwrdd iechyd ac Unite," meddai'r llywodraeth.

"Mae [y gweinidog] wedi annog y ddwy ochr i ddod yn ôl o amgylch y bwrdd i ddod o hyd i ateb i'r anghydfod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.