Diffyg ar yr haul yn achos cyffro i seryddwyr y dyfodol

Mae Efan yn aelod o glwb syllu ar y sêr yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Bydd diffyg ar yr haul, neu eclips, rhannol i'w weld yng Nghymru nos Fercher.
Fe fydd mwy na 90% o wyneb yr haul yn cael ei orchuddio gan y lleuad gyda disgwyl i'r cyfan ddigwydd rhwng 18:10 a 19:05 - er y bydd amseroedd yn amrywio yn dibynnu ar leoliad.
Mae disgwyl i orllewin Cymru - Penrhyn Gŵyr, Abertawe a thraeth Rest Bay ym Mhorthcawl yn benodol - fod ymhlith y llefydd gorau yn y DU i weld yr eclips.
Mae Efan, 11 oed o'r Bala, yn gobeithio bod yn ofodwr yn y dyfodol, ac mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen at wylio'r eclips gyda'i ffrindiau.

Y gred yw mai dyma fydd y diffyg ar yr haul mwyaf trawiadol i'w weld o Brydain ers Awst 1999
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Efan ei fod wedi ymddiddori yn y gofod ers ei fod yn bedair oed.
Yn ôl Efan mae ganddo ddiddordeb ym "mhopeth" sy'n ymwneud â'r gofod - "y planedau, y sêr, popeth!"
Mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen yn arw at wylio'r diffyg ar yr haul gan ei fod yn deall "nad ydi hyn yn digwydd yn aml iawn, o'dd y diwethaf yn 1999".
Fe fydd Efan yn gwylio'r cyfan gyda'i ffrindiau mewn clwb syllu ar y sêr, neu stargazing, yn Ninbych.
"'Dan ni'n cwrdd unwaith y mis ac yn sbio ar y sêr gyda telesgopau a binoculars ac yn tynnu lluniau o'r gofod gyda chamerâu arbennig."

Fe wnaeth Efan gwrdd â'r cyn-ofodwr, Tim Peake mewn digwyddiad yn Llandudno y llynedd
Ychwanegodd mai ei obaith yw bod yn ofodwr rhyw ddydd, a'i fod eisoes wedi cwrdd â'r cyn-ofodwr, Tim Peake.
"Nes i gwrdd â Tim Peake pan oedd o'n 'neud taith i lansio llyfr yn Llandudno yn 2025," meddai.
"O'dd o'n ddyn caredig efo lot o amser a 'nath o ddeud 'take every opportunity you can'.
"'Nath o ddeud hefyd bod angen dysgu Rwsieg i weithio ar yr ISS (Yr Orsaf Ofod Rhyngwladol) felly dwi wedi dechrau dysgu Rwsieg ar Duolingo!"
Beth yw diffyg ar yr haul?
Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae'r lleuad yn symud rhwng yr haul a'r Ddaear, gan rwystro golau yn rhannol neu'n llwyr.
Bydd Cymru a gweddill y DU yn gweld eclips rhannol, tra bydd rhai rhannau o Sbaen a gwledydd eraill yn gweld eclips llwyr.
Y gred yw mai dyma fydd y diffyg ar yr haul mwyaf trawiadol i'w weld o Brydain ers Awst 1999.
Ni fydd eclips solar mor fawr â hyn i'w weld o'r DU eto tan 2081, a bydd yr eclips solar llwyr nesaf yn y DU yn 2090.

Mae Porthcawl yn cael ei amlygu fel un o'r mannau gorau i bobl allu gwylio'r diffyg ar yr haul
Ble fydd modd i bobl wylio?
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i rhwng 94% a 96% o'r haul gael ei orchuddio yn rhannau mwyaf gorllewinol Sir Benfro, gyda Phen-caer wedi'i enwi fel un o'r llefydd gorau yn y DU i weld yr eclips.
Y tu hwnt i dde orllewin Cymru, mae disgwyl i rannau eraill o'r wlad weld rhwng 92% a 94% o wyneb yr haul yn cael ei orchuddio.
Mae Rhosili ar Benrhyn Gŵyr hefyd wedi'i amlygu fel lleoliad da, tra bod mannau yng nghanolbarth Cymru - megis Argae Craig Goch yng Nghwm Elan - hefyd yn cael eu henwi.

Sut mae modd gwylio'n ddiogel?
Mae seryddwyr wedi rhybuddio na ddylai pobl edrych yn uniongyrchol ar yr haul yn ystod eclips rhannol.
Hyd yn oed pan mae rhan o'r haul wedi ei orchuddio, mae'r golau sydd dal yn weladwy yn ddigon cryf i achosi niwed difrifol i'r llygaid.
Mae Amelia Topping, optometrydd Specsavers, yn dweud mai dim ond sbectol eclips solar ardystiedig neu hidlydd solar cymeradwy ddylid eu defnyddio wrth edrych yn uniongyrchol ar yr haul.
Nid yw sbectol haul arferol yn cynnig digon o amddiffyniad tra bod cyngor i bobl osgoi edrych drwy gamerâu neu delesgopau hefyd.
Os nad oes gennych sbectol eclips solar, mae modd gwylio'r eclips yn ddiogel drwy ddulliau taflunio syml sy'n eich galluogi i weld delwedd o'r haul heb edrych yn uniongyrchol arno.

Dywedodd Dr Cai Stoddard Jones fod eclips yn "rhywbeth prin iawn"
Mae Dr Cai Stoddard Jones, sydd â doethuriaeth yng Ngwyddor Comedau ac Addysg Comedau, yn dweud y bydd yr eclips yn olygfa arbennig i bobl yng Nghymru.
"Yn syml, fydd o'n edrych fatha bod o'n troi'n nos, ddim yn dywyll, dywyll ond yn fwy tywyll nag arfer," meddai.
"Wrth i'r eclips fynd ymlaen, bydden ni'n gweld halo o gwmpas yr haul a'r lleuad a hwn ydy corona, sef y rhan tu allan i'r haul, 'dan ni methu gweld fel arfer."
Dywedodd mai'r ffordd orau o wylio'r eclips yw defnyddio sbectol eclips, ond bod dulliau eraill ar gael i bobl sy'n methu cael gafael arnyn nhw.
"Opsiwn arall ydy defnyddio colander i wneud i'r haul gael ei daflunio ar y wal - mae'r tyllau bach yn neud i'r llun edrych yn dda ar y wal.
"Neu hefyd mae modd gwneud pinhole camera gyda thiwb kitchen roll a ffoil, gyda thwll bach a phwyntio hwnna at yr haul - yna neith llun o'r haul gael ei daflunio ar y wal er mwyn gweld be' sy'n mynd ymlaen."
'Rhywbeth prin iawn'
Ychwanegodd fod eclipsau yn ddigwyddiadau "prin iawn", ac mae'r ffaith bod y Ddaear yn y lleoliad cywir i weld eclips llwyr yn "rili arbennig".
"Y Ddaear ydy'r unig le i weld eclips, ac o bosib yr unig le yn y bydysawd, achos mae'r haul tua 400 gwaith mwy na'r lleuad a thua 400 gwaith ymhellach o'r Ddaear a dyna pam 'da ni'n cael y total eclipse.
"'Da ni heb weld eclips ers 1999 - yr un nesa gorau fydd yn 2081, felly i gael gymaint o totality, mae o'n rhywbeth prin iawn."
Yn ogystal â'r eclips, fe fydd cawod meteor Perseid yn cyrraedd ei hanterth ychydig oriau yn ddiweddarach, gyda'r amser gorau i'w gweld rhwng canol nos a gwawr ar 12 a 13 Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2024

- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025
