Dedfrydu dyn am ymosod ar yrrwr yn ardal Llanrwst

Disgrifiad,

Fideo dashcam yn dangos John Lee yn ymosod ar yrrwr yn ardal Llanrwst

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a darodd yrrwr car arall yn anymwybodol wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi'i gohirio.

Fe wnaeth John Lee ymosod ar y dioddefwr wrth iddo eistedd yn ei gar yn ardal Llanrwst, Sir Conwy ar 15 Mehefin, 2025.

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth cafodd fideo o gamera car (dashcam) ei chwarae yn dangos Lee yn ymosod ar y dioddefwr ac yna fe ddechreuodd weiddi ar ei wraig.

Dywedodd y dioddefwr bod yr ymosodiad wedi cael "effaith emosiynol barhaol ar ei deulu".

Ymosodiad 'ffyrnig a brawychus iawn'

Clywodd y llys bod y dioddefwr wedi stopio ar ochr y ffordd i brynu wyau a'i fod yna ar ôl iddo glywed sŵn hwtian uchel wedi stopio'i gerbyd yn sydyn gan ei fod yn credu bod rhywbeth yn bod ar ei gar.

Roedd Lee yn gyrru'r car tu ôl iddo ar y pryd a phan stopiodd y dioddefwr o'i flaen yn sydyn aeth at ei gar gan weiddi "beth wyt ti'n ei wneud?".

Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Lee ymosod yn gorfforol gan daro'r dioddefwr yn anymwybodol tra roedd yn eistedd yn ei gar.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Rabia Tariq, wrth y llys fod Lee hefyd wedi gafael yn y dyn a'i ysgwyd yn ystod yr ymosodiad.

Mae tystiolaeth fideo yn dangos Lee yna yn gweiddi yn fygythiol ar wraig y dioddefwr.

Wedi'r ymosodiad roedd yna niwed i lygad ac amrant y dioddefwr.

Mewn datganiad personol, disgrifiodd y dioddefwr yr ymosodiad fel un "ffyrnig a brawychus iawn," gan nodi fod yr hyn a ddigwyddodd wedi effeithio ar ei gof.

Ychwanegodd fod y profiad wedi cael "effaith emosiynol barhaol ar ei wraig a'i deulu".

Wrth amddiffyn Lee, dywedodd Richard Edwards fod ei gleient wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf a'i fod yn edifar am ei ymateb byrbwyll.

Dywedwyd wrth y llys fod gwraig a phlant Lee ei hun yn ei gerbyd ar y pryd a'u bod wedi cynhyrfu wrth i Lee geisio osgoi cerbyd y dioddefwr ar ôl iddo stopio'n sydyn.

Disgrifiodd yr amddiffyniad yr ymosodiad fel "un foment wallgof".

Sefydlu tîm pêl-droed iechyd meddwl

Clywodd y llys fod Lee yn saer coed hunangyflogedig a'i fod wedi gwasanaethu yn y fyddin cyn i anaf ei orfodi i adael.

Yn y llys cyfeiriodd Mr Edwards at frwydrau Lee gydag iechyd meddwl ac fe nododd ei fod wedi sefydlu tîm pêl-droed iechyd meddwl i gefnogi ei hun ac eraill yn y gymuned.

Wrth ddedfrydu Lee pwysleisiodd y Barnwr Nicola Jones ddifrifoldeb y digwyddiad - a hynny'n enwedig wrth i rieni oedrannus y dioddefwr wylio o'r sedd gefn.

Beirniadodd Lee hefyd am ei "ymosodiad geiriol" tuag at wraig y dioddefwr tra bod ei blant ei hun yn gwylio'r digwyddiad.

Mae Lee wedi derbyn dedfryd o garchar 12 mis gohiriedig.

Rhaid iddo ymgymryd â 10 diwrnod gofynnol o weithgaredd ailsefydlu a thalu iawndal o £500 a gordal statudol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig