Esyllt Sears: Anturiaethau o amgylch Cymru

  • Cyhoeddwyd
Esyllt Sears a Kiri Pritchard-McLeanFfynhonnell y llun, Dan Ollerhead
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt Sears a Kiri Pritchard-McLean

"Sai'n cymryd Cymru'n ganiataol rhagor."

Dyma un o'r gwersi mae'r digrifwr Esyllt Sears wedi dysgu tra'n teithio ar hyd a lled Cymru gyda'i ffrind, y digrifwr Kiri Pritchard-McLean o Ynys Môn, ar gyfer podlediad teithio a chomedi newydd, Pod of Wales.

Mae pob pennod yn dilyn anturiaethau'r ddwy wrth iddyn nhw ymweld â gwahanol rannau o'r wlad.

Mewn darn i Cymru Fyw mae Esyllt, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, yn datgelu beth mae hi wedi dysgu o'r profiad:

line

Un o'n atgofion cliriaf i o deithio yng Nghymru yw mynd ar goll ar y ffordd i Ffynnon Gybi yn y car gyda fy rhieni, fy mrawd a'n chwiorydd rhywbryd yn y nawdegau. Ofer oedd ymdrechion Dad i ofyn am gyfarwyddiadau gan ffermwr lleol tra o'n i'n crio yng nghefn y car yn meddwl na welen i Bow Street fyth eto, achos gyrhaeddon ni ddim. Wi'n cymryd ei fod e'n bodoli...?

Felly pan ges i fy ngofyn, â Kiri Pritchard-McLean, i fynd ar bererindod dwristaidd o amgylch Cymru ar gyfer podlediad Pod of Wales, ar y cyd gyda Croeso Cymru, o'n i'n teimlo bod yr amser wedi dod i wneud yn iawn am yr hyn es i drwyddo'n wyth oed ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw rhywle ar gyrion Llangybi; ac hefyd y cyfle perffaith i sianelu Jill Dando a Gloria Hunniford (fel rhywun oedd yn obsessed gyda rhaglenni Holiday a Wish you Were Here...? yn y 90au.)

Padlfyrddio yng Nghei NewyddFfynhonnell y llun, Jo Southerd
Disgrifiad o’r llun,

Padlfyrddio yng Nghei Newydd

Bwyta ac yfed

Mae Kiri a finne yn cael bwyta, yfed, chwerthin a siarad â chymaint o bobl angerddol ar hyd a lled y wlad. Ni hefyd yn rhoi cynnig ar bethau fydden i efallai byth wedi ystyried - fel gwneud ioga ar badlfwrdd yng Nghei Newydd, hedfan drwy chwarel ym Mlaenau Ffestiniog ar wifren denau, a beicio modur oddi ar y ffordd yn Llanidloes.

Ni'n benderfynol o archwilio pob twll a chornel o'r wlad er mwyn ysbrydoli pobl eraill i brofi Cymru drostyn nhw eu hunain. Ychydig bach fel cŵn pan maen nhw'n gadael arogl i gŵn eraill ble bynnag maen nhw'n mynd - wi'n hoffi meddwl taw dyna beth mae Kiri a fi yn ei wneud. Ond mewn ffordd ychydig glanach.

Esyllt a Kiri'n mwynhau'r haulFfynhonnell y llun, Dan Ollerhead
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt a Kiri yn mwynhau'r haul

Ro'n i wedi ystyried sgwennu pum peth dwi wedi dysgu am Gymru tra'n recordio'r podlediad yma, ond bydd rhaid i chi wrando ar y penodau i gyd i ddarganfod hynny... yn hytrach, dyma bum peth sy' wedi newid yn fy mywyd ers dod yn ymwelydd yn fy ngwlad fy hunan:

Pum ffordd mae Pod of Wales wedi newid fy mywyd:

Dwi byth ddim yn byw mas o ges bellach

Mae landin y tŷ yn edrych yn debycach i Primark ar brynhawn dydd Sadwrn bob dydd. Dwi wedi stopio trio dadbacio erbyn hyn.

Yr unig beth sy'n newid yw pa fath o ddillad wi'n cadw yn y ces ar gyfer y trip nesa. Os y'n ni'n neud llawer o weithgareddau awyr agored fel dringo mynydd, beicio modur neu farchogaeth, yna mae fy nillad gwaethaf, mwyaf tyllog, yn cael aros yn y ces. Os oes bwyty arbennig o classy ar yr itinerary, yna mae'r stiletos a'r jumpsuit gorau yn neud y cut.

Dwi wedi dod yn giamstar ar hawlio gwely dwbl, lle bynnag dwi'n mynd

Y tric i hyn yw neud yn siŵr mod i byth yn gweithio i ffwrdd y noson cyn un o'n teithiau ni, fel yna gallai sicrhau y byddai'n cyrraedd ein llety cyn Kiri sydd fel arfer yn dod o Ynys Môn. Er, efallai neith hi ennill y blaen arnai os byddwn ni'n recordio yn Ynys Môn rhyw ben. Hmmm, ma angen plan B arnai...

Ar y traeth ym MwntFfynhonnell y llun, Jo Southerd
Disgrifiad o’r llun,

Ar y traeth ym Mwnt

Gallai addasu eitemau bob dydd mewn argyfwng

Chi erioed wedi anghofio diffuser eich sychwr gwallt? Fel rhywun sy'n aml yn cyrlio'i gwallt, ma hwn yn gyflafan. Tip? (un ffeindies i ar TikTok) Rhidyll. Mae rhidyll wedi achub 'y ngwallt i ar fwy nag un tro. Jest casglu'r gwallt mewn iddo fe, fel spaghetti, a sychu drwy'r rhidyll. Jest peidiwch gweud wrth y perchennog Airbnb taw dyna shwt cafodd e ei ddefnyddio...

Dwi'n bwyta pork belly bron pob pryd bwyd erbyn hyn

Felly'r pryd bwyd cynta' gafodd Kiri a fi tra'n recordio'r bennod gyntaf oll, dyma hi'n siarsio fi i archebu'r pork belly. Os nagych chi'n ymwybodol, mae Kiri yn fegan am resymau moesegol. Felly mae hi nawr yn byw yn ddirprwyol drwydda i. Dwi'n bwyta'r pork belly, ma hi'n gwylio. A fel 'na mae e wedi bod ym mhob lle ry'n ni wedi bwyta os oes porc ar y fwydlen...

Sai'n cymryd Cymru'n ganiataol rhagor

Dwi byth wedi cymryd yr iaith na'r diwylliant yn ganiataol ond mae 'na rywbeth am sylwi a phrofi a byw y tirwedd a'r bobl a'r profiadau y gelli di gael yn dy wlad dy hunan.

Y pethau bach 'na ti'n meddwl... wel, gallai neud hwnna unrhyw bryd, mae e jest lawr y rhewl. Ond ti byth actually'n neud e.

Fydden i'n argymell bod pawb yn dewis lle, neu ddigwyddiad neu brofiad yn lleol iddyn nhw, dy'n nhw byth wedi profi o'r blaen a'i wneud e eleni. Neith e newid eich golwg o'ch ardal a'r wlad er gwell.