bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Canu'r Cymry yn popio

Llyfr newydd am hanes canu pop Cymraeg
Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002

• Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr sy’n cofnodi twf hanes canu poblogiadd Cymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif am y tro cyntaf.

Mae’r gyfrol Be Bop a Lula’r Delyn Aur gan Hefin Wyn yn olrhain a dadansoddi datblygiad adloniant ysgafn, gan godi nifer o gwestiynau am hanes a dyfodol y byd canu roc Cymraeg.

Ynl y gyfrol 432 tudalen a gyhoeddir gan Y Lolfa mae Hefin Wyn yn tanlinellu’r modd y mae adloniant Cymraeg wedi datblygu yng nghysgod yr adloniant Eingl-Americanaidd.

Yn y cysgod

Disgrifia sut y bu i’r Cymry Cymraeg fyw yng nghysgod diwylliant mwyafrifol, gan ei addasu a’i efelychu i greu diwylliant unigryw a chyffrous ei hun.

Ond rhybuddia’r gyfrol mai dim ond mewn sefyllfa pan oedd y Gymraeg ei hun yn ddigon cryf yr oedd modd cymhathu’r elfennau estron a pharhau’n rymus.

Yn ei ragair i’r llyfr gwêl Meredydd Evans y Gymraeg, a’r byd adloniant ysgafn, mewn sefyllfa tipyn gwanach ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain nag yng nghyfnod y llyfr:

"Hyd yr wythdegau cynnar cymharol brin oedd yr arwyddion o gloffi rhwng dau feddwl. Roedd mwyafrif llethol popwyr y cyfnod hyd at hynny yn frwd dros greu a pherfformio eu caneuon yn Gymraeg, ond bellach daeth tro ar fyd.

"Mae lle i amau erbyn hyn mai prinhau y mae’r grwpiau a’r unigolion sy’n gwbl sicr eu meddwl mai perfformwyr Cymraeg ydynt. Gresyn."

Dylanwadau estron yn allweddol

Er y Seisnigo a welir ar hyn o bryd does dim dwywaith i’r dylanwadau estron fod yn allweddol i dwf canu poblogaidd Cymraeg yn ôl Hefin Wyn:

"Roedd Triawd y Coleg o ddyddiau’r Noson Lawen yn ddyledus i grwpiau Americanaidd megis yr Inkspots o ran datblygu harmonïau.

"Ond ar ôl impio’r dylanwadau hynny roedd cynnyrch y triawd yn gwbl Gymreig. Er taw alawon poblogaidd Americanaidd fyddai pobl megis Bois y Frenni yn eu defnyddio, fe fyddai eu caneuon yn creu llond gwald o chwerthin Cymraeg."

Penderfyniad gwleidyddol

Yn y llyfr manylir ar y dylanwadau ac fe’n hatgoffir mai yn Saesneg y canai Hogia Llandegai, Hogia’r Wyddfa a Dafydd Iwan i ddechrau. Ond yna gwnaed penderfyniad gwleidyddol i ganu’n Gymraeg gan grwpiau ac unigolion fel ei gilydd.

Erbyn y chwedegau a’r saithdegau roedd adloniant Cymraeg yr ifanc yn rhan o ymchwydd cenedlaetholdeb. Fyddai mwyafrif yr artistiaid ddim yn breuddwydio canu yn Saesneg.

Cymaint oedd bri y canu Cymraeg yn y saithdegau nes bod cerddorion di-Gymraeg a Saenson yn cynorthwyo i hybu canu roc Cymraeg – bu Simon Tassano, er enghraifft, yn cynhyrchu recordiau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr a’r Trwynau Coch.

Troes rhai o’n cantorion pwysicaf, yn cynnwys Meic Stevens, Endaf Emlyn a Myfyr Isaac eu cefnau ar y byd Saesneg gan gyfrannu’n helaeth at ddatblygiad canu roc Cymraeg.

Mewn merddwr

Daw’r croniclo a’r dadansoddi i ben yn y gyfrol hon ar ddechrau’r wythdegau pan oedd adloniant ieuenctid mewn merddwr.

Gwelwyd anniddigrwydd a rhwystredigaeth yn dilyn methiant Refferendwm Datganoli 1979. Cyrhaeddwyd croesffordd, gyda’r dadlau’n ffyrnig rhwng y rhai oedd o blaid ac yn erbyn y syniad o ‘Fro Gymraeg’.

Yr awdur

Mae awdur y gyfrol, Hefin Wyn , yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac sy’n byw yn y Mot, Sir Benfro.

Ef oedd gohebydd adloniant Y Cymro yn ystod y 70au, a bathodd ei dermau Cymraeg ei hun (grwp rocecer oedd y Trwynau Coch a grwp rocracs oedd y Llygod Ffyrnig).

Ef hefyd yw awdur y llyfr Doedd Neb yn Becso Dam am y grwp arloesol, Edward H Dafis.

Be Bop a Lula’r Delyn Aur gan Hefin Wyn
Pris: £14.95
isbn: 086243 634 6

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfraua'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan









Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy